Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Khif. 8. YR HAUL. CHWEFROR, 1836. Cyf. 1. ESBONIAD ESGOB PEARSON AR Y CREDO. ERTHYGL I. " Credaf yu Nuw Dad Holl- gyfoethog, Creawdr nef a daear." Cynhwysa y Credo yr oll o gyfFes ffydd, yr hyn ydyw yr achos e'i gel- wir wrth yr enwad ' Credo ;' ac y mae y gair hwn i'w ddeall fel yn rhag-flaenori pob erthygl a gwirion- edd cynnwysedigyn y Credo; megis "Credaf yn Nuw Dad Hollgyfoeth- og;" hynny ydyw, Credaf yn Nuw, — Credaf bod y Duwhwnnw yn Dad, —Credaf bod y Tad hwnnw yn Hollalluog. Credu ydyw cydsyniad â'r hyn sydd yn gredadwy, fel ag y mae ynddo ei hun yn gredadwy. Cydsyniad ydyw y weithred honno o eiddo y deall, drwy yr hon y mae yn derbyn, yn cyfaddef, ac yn cofl- eidio y gwirionedd. Y mae pob credu yn gydsyniad, ond nid ydyw pob cydsyniad yn ffydd, am y gall cydsyniad ddeillio oddiwrth wybodaeth. Pethau aralwg i'r synwyr neu y deall, yn briodol, ni chredir, ond a adnabyddir. Er y dichyn fod rhai pethau yn anamlwg ynddynt eu hunain, etto ymddangosant yn wirioneddau oddi- wrth eu cyssylltiad angenrheidiol à rhyw beth adnabyddus yn barod ; ac amgyffrediad y cyfryw bethau nid ydyw ffydd, ond gwybodaeth gel- 2E fyddydol, Pethau yn ymddangos yn wirionedd oddiwrth eu perthyn- asau â gwirioneddau eraill, ond etto â rhyw ansicrwydd yn perthyn idd- ynt, nid ydynt fatteriono ffydd, ond 0 opiniwn. Ond pan na fyddo rhyw beth yn amlwg i'r synwyr, neu yn oleu i'r deall, neu na elìir ei gasglu drwy ddadl resymol, ac etto yn ein tueddu i gydsynio âg ef trwy rin- wedd y dystiolaeth a roddir am dano. Y cydsyniad hwn yn briodol ydyw credu, neu ffydd. Y mae dau fath o dystiolaethau, sefdynola dwyfol; o ganlyniad, y mae dau fath o ffydd. Ffydd ddyn- 01 ydyw y grediniaeth o'r hyn sydd gredadwy ar dystiolaeth dyn ;— ffydd Ddwyfol ydyw credu yr hyn sydd gredadwy ar dystiolaeth Duw. Y ffydd ddiweddaf hon ydyw y ryw- ogaeth uchaf o ffydd, am e'i seilir ar berffeithiau Duw. Y mae efe yn anfeidrol ddoeth, ac ni ellir ei dwyllo ; ac y mae yn anfeidrol dda, ni all dwyllo neb. Ar y ddwy gol- ofn ddiysgog hyn y mae awdurdod tystiolaeth Duw yn sefyll. Y mae datguddiad yn ddau fath, un yn ddigyfrwng a'r llall drwy gyf- ryngau. Trwy y datguddiad cynt- af y llefarodd Duw wrth y Proph- wydi, a thrwyyrail yn yProphwydi, a thrwyddynt hwy wrthyra nin- nau.