Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 20. CHWEFROR, 1837. Cyf. II. LLAIS DOETHINEB. Gyda chamrau buain y prysura dynion yn eu teithiau drwy y fu- chedd hon, ac oesau y byd a dreigl- ant ymaith mor chwyrn, fel mai braidd y rhoir amser i ddyn ystyr- ied ei fod yn y byd hwn; o gan- lyniad y mae o'r pwys mwyaf iddo wneuthur ei fatter a'i farn yn dda, oblegid bydd i'r dorau tragy wyddol ymagor yn fuan er ei dderbyn i'r byd mawr, lle ni newidir ei sefyllfa byth mwyach. Wrth ystyried cyf- rifoldeb dyn mewn byd arall, a'i fod i fucheddu yn dragywyddol yno, y mae yn rhyfeddod o'r mwyaf ei fod yn treulio ei oes mor anys- tyriol yma; yn ymddifyrru gyda theganau, yn ymlid ar ol cysgodau, ac mor ddidaro ynghylch ei sefyllfa dragywyddol a phe byddai angeu yn gosod terfyn hollol ar ei fodol- laeth, ac yn ei guddio yn dragyw- ydd dan y llenni. Dywedir fod y Jehofa goruchel yn llefaru unwaith a dwywaith, ond nad ydyw dyn yn deall, a hynny oblegid na fyn dyn fod yn ddoeth, ond mai gwell gan- ddo fod fel Uwdn asyn gwyllt, ac ymddwyn yn fFol er i hynny ddin- ystrio ei enaid anfarwol. Y mae doethineb er oesau boreuol y byd wedi llefaru wrth yr hynafiaid; cymmerodd ei gorsaf ar y ddaear, cododd areithfa yn nyíFryn trueni ysprydol dyn, ac yn y wedd ddif- rifolaf annercha y fforddolion ar eu teithiau tua'r wlad draw, gan ddy- wedyd, " Arnoch chwi, wyr, yr wyf fî yn galw, ac at feibion dynion y mae fy llais." Pa beth a ddy- wedir gan ddoethineb wrth ddyn- ion ? 1. Doethineb a ddyweda wrth ddynion fod mwy o bwys yn dwyn perthynas â byd arall na'r un pre- sennol. Pe byddai i ni farnu oddi- wrth yr hyn a welir, gellid meddwl a phenderfynu mai y byd hwn ydyw pob peth, ac nad ydyw byd arall ond breuddwyd ammheus a dychymmyg gwallgofion penboeth a hygoelus. Ymgais dynion yn y byd hwn ydyw gwneuthur eu hunain yn fawrion, a gosod bri ac enwau tragywyddol iddynt eu hun- ain; un yn ymdrechu dringo gor- sedd drwy íifeiriant o waed, ac felly i enwogi ei hun byth byth- oedd; y llall yn olrhain y pegynau, er gwneuthur darganfyddiadau newyddion, a thrwy hynny i sicrhau coffadwriaeth dragywyddol iddo; a phob un o fewn ei gylch yn ym- drechu ei oreu er mwyn tragyw- yddoli ei hun mewn byd sydd i ddarfod, ac i fflamio heb fod yn hir hyd yr eithafion uchod. A chyda golwg ar duedd dynion i wneuthur y byd hwn a'i bethau eu holl yn oll, y mae doethineb âg uchel lef yn galw arnynt, ac yn eu cyfeirio at bethau y mae o bwys tragywyddol