Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 21. MAWRTH, 1837. Cyf. II.. BABEL. Mewn trefn ac raewn harddwch digyffelyb y cyflewyd y byd hwn gan uchel Ior y nefoedd er derbyn y dyn, yr hwn ydoedd i fod yn arglwydd arno, ac i ymddifyrru ynddo, trwy syíwi ar ei amrywion, a rhyfeddu y gallu a'r doethineb a roes fodoliaeth iddo. Ac y mae y cwbl a berthyna i'r gyfundraeth hon wedi ymgadw o fewn terfynau eu deddfau cyntefig ond dyn, yr hwn, er ei fod yn bennaf o gread- uriaid Ion ar y ddaear, etto, drwy wyro oddiar lwybrau ei ddyled- swyddau, a aeth yn fwy annhrefnus na'r un creadur sydd ar y ddaear. Dyn drwy bechod a ddygodd bob niweidiau i'r byd, y rhai, yn un cefnllif ofnadwy, a'i Uwyr oresgyn- asant yn ei holl daleithiau, ac a'i gosodasant megis pair berwedig mawr, o'r hwn yr ewyna allan bob rhywiogaetb.au o wenwyn marwol, a achosodd drangc tragywyddol i fìl myrdd o deulu Adda yng ngwa- hanol oesau y byd. Pechod y dyn yn erbyn ei Grewyr a roes allu i'r tân losgi, i'r dwfr foddi, ac i'r cle- ddyf wanu ; oblegid efe a agorodd y drws i farwolaeth ddyfod i'r byd, ac o'i blegid y mae gallu angheuoí yn perthynu i bob peth braidd yr awr hon. Yng nghyfnod cyntaf y byd aeth drygioni dynion mor fawr, fel na allai sancteiddrwydd Duw eu dioddef ar y ddaear; ac wedi ymwisgo o hono ym mantellau ei ddychfgrnfeydd, efe a'u dinystr- iodd oll ond wyth enaid, y rhai a ddiogelwyd yn nghanol y berw digofus. Ond er yr enghraifft ddy- chrynllyd hon o wg Arglwydd y lluoedd, ac er dangos o hono drwy arwydd amlwg nad gwiw i ddyn gellwair â'i gyfreithiau goruchel ef, etto, wedi amlhau o honynt dra- chefn ar y ddaear, tybiasant y gall- ent rwystro amcanion y nefoedd, a gwneuthur iddynt eu hunain enw a barhasai yn dragywydd. Ym- aflasant yn y gorchwyl gwallgofo adeiladu twr, a breuddwydiasant y gwelent ei nen yn esgyn uwchlaw ser Duw, ac*ystyriasant eu hunain wedi anfarwoli eu henwau drwy yr adeiladaethfawrhon; eithryTeyrn tragywyddol a sylwodd arnynt, ac er mwyn ceryddu eu rhyfyg, yn gystal ag er dangos eu hynfyd- rwydd i'r oesau dyfodol, efe a gym- mysgodd eu hiaith; ac felly yn ddisymmwth ac ar unwaith efe a osododd eu gorchwyl dan attalfa, a galwyd colofn eu hynfydrwydd yn Babel hyd y dydd hwn. Ond nid hon ydoedd neu ydyw yr unig Ba- bel ar y ddaear, oblegid y mae tair o honynt yn neillduol amlwg, ac yn hawdd i'w gweled i bob dyn sydd â llygaid ganddo; sef Babel Wladol, Babel Grefyddol, a Babel Bersonol.