Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 22. EBRILL, 1837. Cyf. II. CAMSYNIADAU CREFYDDOL. Nid dichonadwy i ddyn fedd- iannu dim yn well yn y fuchedd bresennol na gwir grefydd; oble- gid y mae yn dieithrio ei feddwl oddiwrth yr hyn a welir, ac yn sicrhau ei ddedwyddwch yn y wlad lle y mae bythol oes yn teyrn- asu. Ond fel *y mae dyn wedi myned yn gamsyniol ynghylch pob peth, ac yn agored i gyfeiliorni ar y ddeheu ac ar yr aswy yn ei gyn- niweirfeydd drwy y fuchedd hon, felly hefyd ynghylch crefydd; o herwydd nid pob peth y mae dyn- ion yn ei feddwl ydyw crefydd, ac nid ar ol crefydd yn fynych y mae dynion yn myned, er eu bod hwy yn meddwl ac yn dywedyd felly. Ni fu y gair crefydd yn cael ei ddefnyddio yn fynychach efallai yng Nghymru erioed nag yn bre- sennol, ac efallai hefyd na fu mwy o gamsyniadau yng Nghymru er- ioed ynghylch pa beth ydyw cref- ydd. Gwn fy mod ar dir cynnil, ac y tynnaf lawer yn fy mhen oble- gid fy syniadau ynghylch crefydd; ond nid gwaeth gennyf hynny, o herwydd/gan fy mod yn credu yn ddilys fod camsyniadau o bwys yn hanfodi ym meddyliau dynion gyda golwg ar y matter mawr a phwysig hwn, ymdrechaf wneuthur fy ngoreu er gwasgaru gwell syniadau, ac er dymchwelyd y tybiadau camsyniol a goleddir gan niferi lliosog. Dios bod llawer iawn o ddynion yn meddwl bod dwyn perthynas â'r enw hwn neu yr enw arall o gref- yddwyr, bod yn y gyfeillach, ac mewn cyfrannogiad o'r ordinhadau, yn sicrhau y nefoedd iddynt yn y pen draw. Gwir bod hyn yn un o berthynasau crefydd; ond nid hyn ydyw crefydd, fel y mae llawer wedi ofer-dybiaw. Y mae rhyw ddull unffurf yn awr yn y wlad gyda golwg ar ymwneuthur cyntaf dynion â chrefydd; oblegid pan fyddo rhyw un wedi bwriadu ym- gyssylltu â rhyw blaid o grefydd- wyr, y peth cyntaf a wna ydyw gadael llofft y tŷ cwrdd, a chym- meryd ei orsaf yn rhyw le ar y llawr, ac earych yn lled bendrwm. Tynna yr ymddygiad hwn sylw y gweini- dog a'r blaenoriaid ; ac wedi siarad â'r dyn, daw i'r gyfeillach ; ac wedi cael digon o brawf o'i dduwioldeb, derbynir ef yn aelod cyflawn o'r gyfryw gymdeithas. Cyn belled ag y mae hyn yn myned, y mae yn eithaf da; oblegid y mae crefydd yn dwyn dyn i ymneillduo oddi- wrth y byd, yn ei wasgu at y rhai a ofnant Dduw, ac yn ei blygu i ufudd-dod i holl orchymmynion Duw. Ond y mae hyn yn rhy fach o lawer i ddyn i wynebu y byd mawr; ac yn ddios y mae crefydd miloedd o ddynion yn gynnwysedig yn unig yn hyn. Pe gofyrinid i'r