Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 27. MEDI, 1837. Cyf. IL BUCHDRAETH EDWARD VI. Edward VI., unig fab Harri VIIT. a'i gorfucheddodd, a aned yn Hamp- ton Court, Hydref 12, 1537. Ei fam, y Frenhiues Jane Seymour, a fu farw ym mhen ydeuddegfed dydd wedi ei eni. Cafodd Edward dair llysfam, ond y mae yn debyg nad ydoedd yn wrthddrych serch na gofal neillduol yr un o honynt. Dygwyd ef i fynu dan ofal mam- maethod hyd onid ydoedd yn chwe' mlwydd oed, pryd y rhoddwyd ef dan ofal Syr Anthony Cooke a Syr John Cooke, er mwyn ei ddwyn i fynu mewn dysgeidiaeth. Cyn- hyddodd y Tywysog yn rhyfedd dan ddysgeidiaeth y meistri galluog ûchod. Bu farw Harri VIII. yn ei balas yn Westminster, ar fore dydd Gwener, yr 28 o Ionawr, 1547 ; ond ni chyhoeddwyd ei farwolaeth hyd ddydd Llun, yr 31 o'r un mis. Yr oedd Edward yn Hatfield pan fu farw ei dad, a dygwyd ef oddi yno yn gyntafiÉnfield,cartref ei chwaer Elizabeth,ac ar yr 31 i'r Twr yn Llundain, lle ei cyhoeddwyd yr un diwrnod. Agorodd y Cynghor ew- yllys y Brenhin diweddar, yn yr hon yr oedd Harri wedi pennodi un ar bumtheg o ddynion, dan yr enw Cymmyn-weinyddwyr, i ofalu am fatterion y llywodraeth droB faboed Edward, Etholwyd Edward Sey- mour, ewythr Edward, brawd ei 21 fam, gan y lleill i fod yn llywydd arnynt, yr hwn a gymmerodd arno y titlau o Lywodraethwr ei Fawr- hydi, Arglwydd Ymddiffynnydd ei holl lywodraethau, a Rhaglaw cyíFredinol ei holl fyddinoedd. Cre- wyd ef hefyd yn Ddug Somerset, a dringodd i'r swyddau uchaf yn y llywodraeth. Gwnaed ei frawd, Syr Thomas Seymour, yn Farwn Sey- mour, o Ludley, a phenuodwyd ef yn Uchel-Lyngesydd. Gwrthwyn- ebwyd dyrchafiad Somerset gan Iarll Southampton, yr Arglwydd Canghellwr; ond ym mhen ychydig wythnosau gorfu i Southampton roddi y Ganghellwriaeth heibio, ac ymadael o'r Cynghor. Nid cym- meriad da a roddir gan amryw han- eswyr i Ddug Somerset, oblegid yr oedd yn neillduol o falch a thra- haus. Hyd yn hyn nid ydoedd y Diwyg- iad crefyddol wedi myned ym mhell iawn ym mlaen yn Lloegr. Yr oedd uchafiaeth y Pab wedi cael ei wrthod, y crefydd-dai wedi cael eu dattod, a chauiattad ammodol i ddarllen yr Ysgrythyrau. Ychydig fisoedd cyn terfyniad y Brenhin Harri, yr oedd Protestaniaid a Cha- tholiciaid wedì cael eu llosgi yn Smithfield. O dan Ddug Somerset a'r Brenhin Edward, mesurau new- yddion a gymmerwyd mewn Uaw yn