Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 28. HYDREF, 1837. Cyf. II. HANES SALADIN. Ym mhith yr amrywiol deulaoedd a fu yn llywodraethu yr Aipht, bu y Fatimitiaid am ryw yspaid ; a'r di- weddaf o'r rhai hyn a fu farw yn y flwyddyn o oed ein Harglwydd 1171, pan y traws-feddiannodd yr enwog Saladiu, y prif weinidog, yr orsedd. Nid ydoedd Saladin wedi deilliaw oddiwrth Mohammed, am hynny ni ellid ei alw yn Galiph, yr hyn a gynnwys y swydd offeiriadol yn gystal a'r swydd frenhinol. O herwydd nad ydoedd wedi hanu o Mohammed, cymmerodd yr enw Sultan, a gadawodd y swydd arch- offeiriadol i gael ei Jlanw gan un o hiliogaeth y Prophwyd. Er i Sala- din gael eì gydnabod fel Sultan yr Aipht gan amryw o'r llywodraethau cymmydogol, ac er iddo hefyd gael ei gydnabod gan Galiph Bagdad, yr hyn a roes iddo enw a chymmerad- wyaeth ym mhlith canlynwyr Mo- hammed, etto nid ydoedd efe yn ddiogel rhag cynhyrfiadau gartrefol. Dyrfu i gyfeilliou ac ymlynwyr y Fatimitiaid gyfodi gwrthryfel yn y deyrnas, ac ymhonnwr i'r orsedd a gasglodd gan' mil o wyr. Gorch- fygwyd y rhai hyn yn fuan drwy ddewrder a challineb Saladin ; ond gyda ei fod* wedi ymryddhau o'r perygl hwu, bygwythiwyd ef yn unióngyrchol gan filwyr rhyfeloedd y groes. Yr oedd William II. 0 2N Sicily wedi uno â rhyfelwyr y groes, ac wedi gwarchae ar ddinas Alexandria yn yr Aipht, ar dir ac ar fòr; ond darfu i Saladin yn fuan rwystro ei amcanion. Gyda buan- dra anghydmarol darfu iddo arwain ei luoedd tuag Alexandria, a'r gwarchaewyr mewn ofn mawr a gyfodasant y gwarchae, ac a ffoisant ymaith, gan adael eu holl glud ar eu hol. Yn y cyfwng hwn yr oedd llyw- odraeth Damascus dan raglawiaeth, oblegid bod Malek Absale dan oed, ac nid oedd pethau yn cael eu trefnu yn ei faboed yn ol ewyllys y bobl, nac yn gymmeradwy gan- ddynt. Pan ydoedd y bobl fel hyn yn grwgnach, dymunwyd ar Saladin i dderbyn llywodraeth Syria. Pan anfonwyd y cynnygiad hwn atto, prysurodd Saladin yn uniongyrchol tua Damascus, ac ni chafodd nem- mawr anhawsdra i gymmeryd medd- iant o'r wlad ; ond proffesai, wrth gymmeryd y llywodraeth, ei fod yn gwneuthur hynny yn enw, a chyda golwg ar ddaioni, y tywysog ieu- angc. Wedi penderfynu matterion yn Damascus, arweiniodd ei fyddin fuddugoliaethus drwy amryw barth- au o'r wlad. Wrth weíed cynnydd a llwyddiant Saìadin, darfu i rai ofni ac eiddigeddu, ac, ym mhlith eraill, daríu i weinidogion Melek