Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhif. 31. YR HAUL. IONAWR, 1838. Cyf. IIT. HANES VAVASOR POWELL. Yr ydwyf wedi gweled mynych grybwŷlliadau yn Rhifynnau diw- eddar yr Haul ara ymddygiadaú crefyddolion Cromwell, a'r erledig- aethau brawychus a gyfodasant yn erbyn yr Eglwys a'i Gweinidogion ; ac y mae hyn wedi atteb dibenion rhyfeddol dda, oblegid ei fod yn taro goleuni ar bethau yr ymdrechir eu cuddio a'u gwadu, heblaw ei fod yn ddangosiad o wir nodweddiad crefyddolion yr oes hon, y rhai a ddilynant gamrau eu hynafiaid i drwch y blewyn. At y crybwyll- iadau a wnaed yn barod, ynghylch ymddygiadau crefyddolion Crom- well a'r gwrthryfel, tybiaf mai nid anfuddiol fyddai gosod ger bron darllenwyr yr Haul ryw ffeithiau neillduol ynghylch pregethwyrmawr y gwrthryfel, yn enwedig y rhai Cymreig o honynt, y pennaf o ba rai ydoedd Vavasor Powell, yr hwn a ystyrir gan lawer yn sant trwm yn ei oes, yn Israeliad yn wir, a'i glod drwy yr holl eglwysi. Caerfyrddin. Iörwerth. Ar fywiojiaethau yr Eglwys yn Lloegr y dechreuodd y Senedd daro, a gwnaethant gynnauaf tor- eithiog o honi, trwy droi miloedd o OfTeiriaid allan o'u Heglwysi, a rhannu yr arian rhyngddynfc a'u gilydd. Pan fyddai rhyw fywiol- iaeth yng ngoìwg y Dirprwywyr pennodedig gan y Senedd, anfonent rai o'u creaduriaid i'r plwyf, a thrwy wobrwyo gwehilion y bobl ac ofer- wyr, caent ganddynt arwyddo er- fyniad i'r Senedd, yn achwyn ar yr Offeiriad,ac yn dymuno cael gwared o hono, a chael rhyw wr duwiol i lanw ei le. Erlidid hwn ymaith yn fuan, a byddai rhyw of, gwehydd, crydd, neu daeliwr yn cael ei roddi yn Rector; ond byddai swm fawr o'r gyflog yn myned i boccedi y Dir- prwywyr crefyddol ac eraill o'u cyf- eillion. Yr oeddyut wedi rhedeg dros Loegr yn y wedd hon; yr Off- eiriaid yn grwÿdriaid ar hyd y wlad, a'u gwragedd a'u plant yn newynu i farwolaeth, tra yr oedd y Dirprwywyr yn byw yn fras ar yr yspail. Ẅedi dryllio yr Eglwys yn Lloegr, trodd y duwiolion hyn eu golygon at y Dywysogaeth; oblegid ar y chweched ar hugain o Fehefin, 1641, anfonwyd erfyniad oddiwrth ryw weinidogion, y rhai a awdur- dodwyd gan Ddirprwyaeth o Dý y Cyffredin i bregethu lle oedd eisiau yng Nghymru, gyda golwg ar y sir- oedd Cymreig, yr hwn ydoedd yn rhag-barottoad o'r drygau ydoedd ar oddiweddyd y dosparth hwn o'r deyrnas. Ẃedi hogi yr arfau, a gwneuthur pob parottoaoau, gwnaed