Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 34. EBRILL, 1838. Cyf. III. HANES ZOROASTER. Esgynnodd Darius Hystaspes i orsedd Persia yn y flwyddyn 521 cyn Crist, ac y mae y niferi amlaf o'r haneswyr goreu yn cyduno, mai yu amser ei deyrnasiad ef y sefydl- odd Zerdust, neu Zoroaster ysgrif- enwyr gorllewinol, ei grefydd new- ydd yn Persia. Ganed ef yn Uremea, tref yn Ajerbigam. Yq ol y chwed- lau Persiaidd, dywedir i Zoroaster chwerthìn yn uchel pan aned ef, ac' ì oleuni lewyrchu allan o'i gorph, nes goleuo yr holl ystafelj. Fel Mohammed ar ei ol, honuai iddo gymmeryd taith i'r nefoedd, a chyrhaeddyd paradwys, lle y der- byniodd oddiwrth Hormuzd, neu yr Yspryd Da, y Rhol Sanctaidd Zeud- a-hesta, ynghyd â'r tân sanctaidd. Efe hefyd a ddisgynnodd i uffern, lle y gwelodd Ahriman, neu yr Ys- pryd Drwg; ond ni allodd am- gylchynu y cylch ydoedd o'i ddeutu. Am ugain mlynedd bu fyw mewn ymneillduaeth hollol, yn anghyfan- nedd-leoedd mynydd Elburz, mewn ogof, yr hon ydoedd wedi cael ei haddurno drosti ganddo â gwa- lianol luniau dirgeledig o'r elfennau, y tymhorau, a'r cyrph nefol. Prif athrawiaethau y Zetid-a-hesta yd- ynt—Bod Duw yn hanfodi o dragy- wyddoldeb; bod dwy egwyddor yn y greadigaeth, y ddrwg a'r dda, un o'r enw Hormuzd, Goruchwyliwr pob peth sydd dda; a'r llall Ahri- man, arglwydd y drwg. Bod gan bob un o'r rhai hyn allu creadigol; ac oblegid eu cydweithrediad, bod cymmysgedd o ddrwg a da i'w gael mewn pob peth creuedig. Bod ang- ylion Hormuzd yn ymegnio i ddiog- elu yr elfennau, y tymhorau, a'r hiliogaeth ddynol; ond yr ymdrecha goruchwylwyr Ahriman eudinystrio. Mai Ffynhonnell y daioni, sef Hor- muzd, yn unig sydd dragywyddol, ac yn y diwedd mai efe a lwydda. Bod y goleuni yn gysgod o'r da; a thywyllwch yn gysgod o'r yspryd drwg. Dywedai Zoroaster wrth ei ganlynwyr, bod angylion gwarch- eidwadol yr anifeiliaid a'r elfennau wedi ei annerch âg amryw ymad- roddion. Yr athrawiaethau cyffredinol a ddysgid ym mhrif waith Zoroaster, y Zeud-a-hesta, oeddynt foesol ac ardderchog, ac yn tueddu i feithrin diwydrwydd a rhinwedd; ond yr oedd cymmysgedd dychrynllyd yn ei grefydd, yr hyn y mae yn deb- ygol a ddygwyd i mewn gan ei gan- lynwyr. Yr oedd y Persiaid, cyn amser Zoroaster, yn parchu y tân fel un o'r elfennau ; ond nid oes un prawf i gredu eu bod yn ei gadw yn eu temlau, ac yn ei addoli. Dyfod a'r arferiad hon i mewn, ydoedd un o'r cyfnewidiadau mawrion a wnaeth