Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 35. MAI, 1838. Cyf. ÌIL HANES WALTER RALEIGH, D. D. O holl weÌ8Ìon yr Arglwydd Iesu Grist yn Eglwys Loegr, a ddioddef- asant yn amser y dymhestl fawr a'i goddiweddodd yn ddisyramwth, pan anrheithiwyd a phan halogwyd ei chyssegroedd gan ei gelynion, y rhai a gymmerent arnynt filwrio dan faniar crefydd, cafodd testun y cofiant hwn ran helaeth. Y mae yn anghredadwy gan nifer liosog o ddarllenwyr yr Haul, y creulon- derau a arferwyd at Offeiriaid duw- iol yr Eglwys, gan filwyr y Senedd, gan ei swyddogion, a chan grefydd- olion yr oes honuo, y rhai oeddynt yn debyccach i fleiddiaid rheibus, nag i ganlynwyr yr addfwyn Em- manuel. Ac ym mhlith merthyron Iesu, a syrthiasant yn aberthau i benboethni crefyddol yr oes honno, ac i gynddaredd crefyddolion Crom- well a'r Senedd, y mae y Doctor Walter Raleigh, erledigaethau yr hwn oeddynt frawychus, a dioddef- iadau yr hwn oeddynt yn warth oesol i'r rhai a gymmerasant mewn llaw i hela fywyd. - Yr oedd y gwr tra dysgedig ac ardderchog hwn yn ail fab i Syr Carew Raleigh, un o 'ddynion mwyaf nodedig ac enwog ei oes. Dygwyd ef i fynu mewn dysgeidiaeth yng NgbolegMagdalen,Rhydychen; ac wedi derbyn urddau sanctaidd y weinidogaeth Gristionogol, gwnaed ef yn Gaplan i Iarll Penfro, ac yn Brebendary Wells. Cafodd fyw- ioliaethau Chedzoy a Streat cum Walton, yng Ngwlad yr Haf; ac yn ddiweddaf yn Gaplan i'w Fawrhydi, a gwnaed ef yn Ddeon Wells yu 1641. Pan dorrodd y gwrthryfel annaturiol allan, a phan arfogodd crefyddolion eu hunain yn erbyn eu Teyrn, gan dorri eu llwon o ufudd- dod, dechreuwyd cyfodi yr erledig- aeth fwyaf dialgar yn erbyn Dr. Raleigh, a hynny yn uuig oblegid ei ufudd-dod a'i ffyddlondeb i'w Fren- hin, ynghyd âg oblegid ei zel ddidor dros yr Eglwys. Cymmerwyd ei fywioliaethau i ddwylaw swyddog- ion y Senedd, ac yntau a anfonid o garchar i garchar gan ei elynion, y rhai a ymhyfrydent yn ei ddioddef- iadau. Rhoddwyd ef mewn un car- char, yn yr hwn y bu amryw feirw o'r pla ; ac yn y diwedd carchar- asant ef yn ei dŷ ei hun, yr hwn a droisant yn garchar. Yr oedd Caplaniaid y Brenhin Charles yn gweini i'w Fawrhydi yn eu cylchoedd, a phan ddaeth ei gylch yntau, Dr. Raleigh a wnaeth ei ymddangosiad. Pan ddaeth ef i'r llys, darfu i Gyfeisteddfod fell- digedig Gwlad yr Haf, yr hon a sefydlwyd er erlid Gweinidogion Eglwys Loegr, gynhyrfu y wërin, ac awdurdodi y milwyr i yspeilio ei