Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 37. GORPHENHAF, 1838. Cyf. III. DYNION DUW. I ba beth y siaredir? Tywyll- odd yr aur! Newidiodd yr aur coeth da! Taflwyd maen peDnaf y cyssegr i'r heol! Chwi, ddynion o deimladau, wylwch y dagrau gloyw- on, oblegid y galanastra sydd wedi cymmeryd lle! Gollyngwyd y march gwelw-las i'n byd ni, ac y mae siolau fil myrddiwn wedi myned yn ddryll- iau dan ei garnau! Y mae y ddraig goch fawr yn preswylio yn ein plith ni, ac wedi gwenwyno yn dragyw- ydd nifer y dail o'r teulu dynol! Y mae y byd yn gorwedd mewn dryg- ioni, ac y mae teulu Adda wedi dwyn gwarth mawr ar y natur ddynol yng ngwahanol oesau y ddaear! Trodd Cara ei gefn yn y bore ar y Shecina, ac efe a'i hiliog- aeth a ymadawsant yn llwyr â buch- edd Duw. Aeth Nimrod yn heliwr cadarn ger bron yr Arglwydd. Sathrodd ar freinnìau dyn, a rhoes eì gyd-ddynion yn llyffetheiriau caethiwed. Caledodd Pharaoh ei galon yn wyneb gwyrthiau a rhyf- eddodau yr Hbllalluog, hyd i don- nau trochionog y Môr Coch, gwael- odion yr hwn a gyssegrodd efe a'i fyddÌD. Dringodd Nebuchodonosor yn ei galon i'r nefoedd, oddiar ser Duw y dyrchafòdd ei orseddfa yn ei feddwl, ac yn ei ddychymmyg eis- teddodd ym mynydd y gynoulleidfa, yn ystlysau y gogledd. Pan ddaeth 2A Mab Dduw i babellu ym mhlith dynion, ac i buro pydewau llygr- edigaeth y codwm, bradychwyd e£ i'w elynion, a gwerthwyd ei waed diniwed gan y dyo Judas. Ond er bod nifer liosog o ddynion fel hyn wedi ymwerthu i wneuthur anwir- eddau lawer; ac er eu bod megis bwbachod duon yn ffurfafen dynol- iaeth; etto y mae nifer liosog o oleuadau disglaer yn Uewyrchu gyda thanbeidrwydd mawr yn llechres meibion Adda, enwau y rhai a swn- iant yn felus drwy bob cenhedlaeth ac oes. Yr ydym wedi darllen am fuddugoliacth.au Semiramis, am ym- laddau gwaedlyd Brenhin mawr Ba-** bilonia, am ddewrder digyffelyb Cyrus, am lwyddiant eirf Alexan- der, am ddifrodiadau Tamerlane, ac am wroniaid lawer a fu a banieri eu buddugoliaethau yn ymgyhwfanu yn uchel yn yr awelon; ond dar- llener yr unfed bennod ar ddeg o'r Epistol at yr Hebreaid, a gwelir gorchestion pennaf y ddaear yn myned i'r cysgodau, yn ymyl gwr- oniaìd a chadfridogion Duw. Pa beth ydoedd dymchwelyd gor- sedd, a dryllio llywodraeth, at off- ryramu i Dduw aberth cymmeradwy, ac er cau y genau gan angeu, a'i gadwyno gan y bedd, etto yn llefaru ac yn gwaeddi yn uchel, yng nghlust- iau yr holl oesau, mai cadarn ydyw