Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 40. HYDREF, 1838. Cyf. III. GWLAD YR AIPHT. Y mae y wlad hon werìi bod yn enwog iawn mewn hanesyddiaeth, ac yn rhagorach na'r holl wledydd mewn hynafìaethau, dysgeidiaeth, cyfoeth, a íFrwythlondeb. Ond y fath ydyw y cyfnewidiadau a gym- merant le ar y ddaear, fel nad ydy w yr Aipht bresennol ddim mewn cydmariaeth i'r Aipht yn yr oesau gynt. Ei dysgeidiaeth a aeth yn anwybodaeth, ei chyfoeth yn dlodi, a'i ffrwythlondeb yn brinder myn- ych. Y mae Môr y Canoldir ar y tu gogleddol i'r wlad hon, Abys- sinia ar y tu deheuol, anialwch Barca a thueddau Affrica ar y tu gorllewinol, a'r Môr Coch ar y tu dwyreiniol. Yn ei phellderoedd mwyaf, y mae ynghylch chwech can' milldir o hyd, ac ynghylch dau cant a hanner o filldiroedd o led. Daear yr Aipht sydd dywodlyd yn ei gwastad-diroedd; ond y mae y Haid a adawa yr afon Nilus ar eu hol yn ei ffrwythloni, ac yn ei gwneuthur yn dra chynnyrchiol mewn mannau. Yr afon Nilus ydyw un o ryfedd- odau pennaf ýr Aipht. Ychydig neu ddim gwlaw sydd yn y wlad hon; ond y mae yr afon Nilus, drwy wlawogydd a thoddiadau eira tua mynyddoedd Abyssinia, yn gosod yr holl wastattir dan ddwfr, a'r dwfr hwn yn gadael llaid bras a thew ar ei ol, yn yr hwn yr haua 2N yr Aiphtiaid eu grawn wedi i'r dwfr gilio. Y prophwydi Esaiah a Jeremiah a alwant yr afon Sihor neu Sichor, a'r Ethiopiaid yn awr a'i galwant wrth yr enw Siris. Galwyd hi Nile, neu Nilus, oddi- wrth frenhin a fu yn teyrnasu ar yr Aipht o'r enw hwnnw. Y creadur hynottaf a breswylia yr afon Nilus a'i glennydd ydyw y crocodil, yr hwn sydd greadur pedwar-troediog, yn byw yn y dwfr ac ar y tir, yn ddeunaw troedfedd o hyd, (deg troedfedd ar hugain y rhai mwyaf, yn ol yr hen haneswyr,) ac yn dra ysglyfaethus. Gwna y creadur hwn ddifrodiadau mawrion yn y dwfr ac allan o'r dwfr. Gesyd y fenyw ei hwyau yn y tywod, y rhai a dde- orir gan wres yr haul; a'r fath ydyw yr attalfa a roddwyd gan rag- luniaeth ar gynnydd y creadur, fel y mae y gwrryw yn dinystrio nifer liosog o'r rhai bychain cyn gynted ag y deorir hwynt; ac oni buasai bod eu gelynion yn aml, ac yn din- ystrio cynnifer o honynt, hwy a am- mhoblogent yr holl Aipht. Ond gan mai hanes y wlad, yn ei thrig- olion a'i llywodraeth, ydoedd amcan y papuryn hwn, ni a gyfyngwn ein hunain i hynny. Y mae yn sicr bod yr Aiphtiaid yn hen bobl, ond nid agos mor hen ag y mynn rhai o'u hen groniclwyr; oblegid y raae rhai o honynt wedi