Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 42. RHAGFYR, 1838. Cyf. III. Y WAWR NEFOL. Rhyfeddod yr holl ryfeddodau ydyw, i'r Creawdwr syîwi mewn trugaredd ac mewn gras ar greadur- iaid na haeddasant ddim oddiar ei law, ond ei wg a'i sorriant byth, am bechu o honynt yn rhyfygus yn ei erbyn, ac ymhaerllugu i frasgammu dros y deddfau uniawn a roddes efe iddynt. Ond yn gymmaint ag mai nid ei íFyrdd ef ydyw ein íFyrdd ni, ac mai nid ei feddyliau ef ydyw ein meddyliau ni, nid edrychodd ar y rhwystrau ag oeddynt ar y fFordd, ni sylwodd ar anhawsderau, ac ni chymmerodd ei luddias gan y cyff- roadau a roddwyd iddo, eithr ym- welodd â byd y daearolion â chodiad Haul o'r uchelder. Yr ydym wedi clywed am deyrnas hen nos, ac ar- swydus ydoedd pan yr oedd hi â'i naentyll duon yn goblygu yr ehang- derau, a'i thy wyllwch dudew yn ymsymmud -ar hyd wyneb y dyfn- der mawr. Ond pa beth ydoedd hir nos yn nychrynfeydd ei theyrn- asiad at y ty wyllwch mawr ysprydol a ýmledodd dros y by d drwy drpsedd ac anufudd-dod dyn? Ar unwaith trôdd hwn belydron gwawr y bywyd yn ol, cuddiodd haul gogoniant, ac attaliodd lewyrch Uon llugyrn Par- adwys rhag tywynu ar yr hiliogaeth ddynol. Dywedodd Duw yn wyneb y caddug mawr a amdoai y ddaear, ,fBydded goleuni, a goleuni a fu;" ac oblegid ei allu creadigol, efe a 2 W wnaeth i oleunì lewyrchu allan o dywyllwch, ac i'r greadigaeth ym- ddangos mewn prydferthwch ac ar- dderchogrwydd mawr. Felly hefyd yn wyneb y tywyllwch ysprydol, yr hwn a roddodd brydferthion pennaf y greadigaeth dan y cysgodau, yn ífordd ei drugaredd a'i ras, gwnaeth i Haul gogoniant daflu ei belydron drwy yr holl eigionnau duon, ac y mae y greadigaeth newydd oblegid hyn yn ymddangos mewn adnew- yddol degwch. Tywynnodd y wawr hon ar ddyn pan mewn gresynoldeb ac anghen- octyd mawr. Cerddai ym mlaen yn brydferth yn ei berfFeithrwydd cre- adigol tu a'r bywyd, yng nghanol mil myrddiwn o wrthddrychau a lonnent ei enaid, ac a lanwent ei galon â syndod oblegid anfeidroldeb rhyfeddodion ei Greawdwr. Ar bob llaw yr oedd rhosynau Paradwys yn ymagor mewn prydferthwch anam- gyfFredadwy, meillion gogoniant yn arogli yn beraidd yn awelon purdeb, a Sheccinah y ddinas nefol yn gan- fyddedig yn chwareu uwchben bryn S'ion. Ond pan y rhoddodd y dyn gam dros y terfyn, aeth yn union- gyrchol i ganol tir y felldith, a'r ty- wyllwch dudew a'i hamgylchynodd, feí nad ydoedd ond pob arswydau a phob dychrynfeydd o bob tu iddo. Wele deithiwr wedi colli ei fFordd, ac wele y nos dywyllaf erioed wedi