Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 45. MAWRTH, 1839. Cyf. IV. Y LLO A U R. Ym mhob oes o'r byd y mae teulu Adda, drwy enghreifftiau an- wadadwy, wedi dangos mai dynion ydynt, ac mai dynion ffaeledig ydynt ar y goreu; ac ni phrofodd neb dynion hynny yn amlyccach na chenedl Israel yng nghymmydog- aeth Horeb, pryd y troisant eu gogoniant i lun eidion yn pori glas- wellt, ac yr addolasant ef. Y mae yr amgylchiad hwn yn nodedig ym mhlith holl amgylchiadau y byd, oblegid iddo gymmeryd lle pan ua ddisgwyliasid i unrhyw ddynion, neu genedl o ddynion, freuddwydio am y fath beth, yn neillduol wrth ystyried amgylchiadau yr Israel ar yr amser hwnnw. Yr oedd y dyn- iou hyn wedi gweled nerthoedd a rhyfeddodau mawrion Duw yn nhir Ham, ac ym maes Soan ; yr oeddynt wedi clywed trwst ei gerbydau yn~ myned trwy y Môr Coch, ac wedi gweled ffordd yn cael ei phalmantu drwy yr eigion mawr; ac yr oedd arwyddion o bresennoldeb Duw Hollalluog yn eu cysgodi ddydd a nos. Yn neillduol ar fynydd Sinai, yr oeddynt wedi gweled y cwmrawl tew a'r niwl du, y mellt tanbaid a'r tân ysol; yr oeddynt wedi clywed sain udgom a llef geiriau; "ie, yr oedd swn lleferydd Ior ei hun wedi taro eu clustiau; ond er liyn oll, " Llo a wnaethant yn Horeb, ac ymgrymmasant i'r ddelw dawdd." Nid ydyw dynion erioed wedi dangos cymmaint ynfydrwydd, ag y maent wedi ei wneuthur mewn pethau crefyddol; ac y mae hyn yn achos o'r syndod mwyaf, oblegid bod crefydd gymmaint yn fwy ei phwys a'i chanlyniadau nag unrhyw beth arall. Y mae yn deilwng o'n sylw ni, bod cenedl Israel wedi cael deddfau, rheolau, a barnedigaethau, wrth ba rai yr oeddynt i ffurfio eu crefydd, ac ymfucheddu ger bron Duw a dynion. Y mae crefydd bur a di- halogedig o Dduw, y mae wedi deiìliaw o'r nef, ac wedi ei rhoddi drwy ysprydoliaeth. Eglurodd Duw ei hun i'r patrieirch er bore oesau y byd, gwnaeth ei hun yn hyspys i Abraham ac i'w had, a thrwy ei was Moses efe a sefydlodd ffurf o grefydd i barhau hyd amser y di- wygiad ym mhlith cenedl Israel. Yr oedd y deng air deddf wedi eu cyhoeddi i'w cly wedigaeth â genau Duw ei hun, y rhai nid oeddynt i gael eu cyfnewid byth ac yn dra- gywydd, a'r gwir Dduw wedi cael ei ddatguddio iddynt, yr hwn yn unig yr oeddynt i'w addoli a'i wasan- aethu yn grefyddol. Ond er y dat- guddiedigaethau a roddwyd iddynt, ac er y grefydd a sefydlwyd yn eu plith drwy orchymmyn a chyfar-