Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 47. MAI, 1839. Cyf. IV. C Y F O E T H. Y mae cyfoeth i raddau yn ang- enrheidiol i ddyn tra yn y bywyd presennol; ond yn gymmaint ag nad ydyw y mwynhad o hono yn gallu ein gwneuthur yn ddedwydd, am ei fod yn anwadal ac ansefydlog, felly hefyd ni all y diffyg o hono wneuthur dynion yn annedwydd, yn enwedig y rhai hynny sydd yn foddíon i'r cylch ymae rhagluniaeth wedi eu cyfleu ynddo. Y mae dy- muniad cymmedrol am gyfoeth, sef angenrheidiau a chysuron bywyd, nid yn unig yn gyfreithlon, ond hefyd yn ganmoladwy ; ond ni a ddylem fod yu ofalus na wnelom hwy ond offerynnau a chynnorthwyon i ddedwyddwch, ac nid yn dded- wyddwch eu hunain, ac megis cym- deithion, yn hytrach nag yn ar- weinyddion i ddedwyddwch. Gyda golwg ar gyfoeth, y mae yn was i ddynion da, ond yn feistr i ddynion drwg, ac i'r rhai hynny a'i gwnant yn brif beth. Er pan y syrthiodd dyn o'r orsaf honno o ardderchog- rwydd a gogoniant y gosodwyd ef ynddi ar y cyntaf, y mae yn teimlo ei fod wedi colli pob awdurdod arno ei hnn, ac ar bob peth sydd oddi amgylch iddo. Wedi iddo golli y galluoedd a berthynent iddo, y mae pob creadur yn ymegnio i'w demtio a'i dwyllo; ac y maent yn fwy per- yglus iddo yn hyn, na thrwy unrhyw niweidiau eraill a allant achosi iddo. Pan ydoedd gan ddyn lywodraeth arno ei hun, mwynhai heddwch a thawelwch didor, oblegid bod holl . weithrediadau ac ysgogiadau y peir- iant yn myned ym mlaen mewn cyssondeb ; ond yn awr y mae dyn yn dra gwahanol; yn ddilywodraeth arno ei hun, ac yn hollol afreolus ; ni ŵyr ym mha beth i roddi ei dded- wyddwch, ac yntau ar yr un pryd yn chwilio am ddedwyddwch, ond yn ymdrabaeddu meẁn cyfeiliornad a chymmysgedd. Gobeithia am ddedwyddwch mewn anrhydedd, pleserau, neu mewn cyfoeth; ond ei holl obeithion yn y pethau hyn a'i twyllant yn y peu draw. Wrth fyned ar ol y cyfryw wrthddrychau, yn y mae cael allan mai cysgodau gweigion ydynt, a theimla wagder yn ei feddwl na ŵyr pa fodd i'w ìanw, ac y mae yn ymlid yn barhaus ar ol daioni dychymmygol, yr hwn ni all byth ei oddiweddyd. Ym mhlith yr amrywiol wrth- ddrychau y mae dyn yn eu chwen- nychu, rhydd y lle pennaf a blaenaf i gyfoeth. Dychymmyga dynion y gall cyfoeth eu hadferu i'w cysuron a'u gogoniant cyntefig, neu o leiaf ei fod yn gydwerth â'r hyn oll a gollwyd; y gall eu dyrchafu i'r orsaf y syrthiasant o honi, ac y gall roddi yn lle dedwyddwch gwreiddiol