Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 51. MEDI, 1839. Cyf. IV. HANES SYR RHYS AB THOMAS. Wedi i Morgau a Dafydd, meibion Thomas ab Gruífydd, farw, disgynnodd . yr etifeddiaeth i'w brawd, Rhys ab Thomas; yr hwn> yn ol llaw, a ddangosodd ei fod yn deilwng o honi ym mhob ystyr. Pan aeth Thomas ab Gru- flFydd i'r gwledydd tramor, aeth Rhys gydag ef i lys Dug Burgundy, ym mha le y sylwyd yn ncillduol arno; ac ym mhen ychydig amser efe a bennodwyd i swydd o anrhyd- edd yn nheulu y Dug. Ond yn fuan ymadawodd ei dad â Burgundy, a Rhys a ddychwelodd yn ei ol gydag efiGymru. Un o-r pethau cyntaf a wnaeth Rhys, wedi dyfod i fedd- iant o'r etifeddiaeth, ydoedd rhoddi terfyn ar yr ymrafaelion a hanfodent rhwng ei deulu ei hun a theulu Cwrt Henry, trwy iddo briodi Efa, merch ac etifeddes Hfcnry ab Gwi- lym, o'r lle uchod. Trwy y briodas hon, darfu i Rhys ychwanegu ei etifeddiaeth. agos i gymmaint arall ag ydoedd o'f blaen, fel yr oedd yn un o'r deiliaid cyfoethoccaf yn y deyrnas. "Yr oedd bywioliaeth Rhys yn debyccach i eiddo tywysog nag i ddim arall; a thrwy weithredoedd ogariad a haelioni, aeth yn boblog- aidd; ac yr oedd ei allu o'r fath, fel yr oedd ganddo bedwar cant ar bumtheg o ddeiliaid yn rhwym i was- an ethu arno arfeirch, ar yralwad 21 ferraf; a dywedir y gellai ddwyn i'r maes bum' mil o farchogion, wedi eu harfogi, ac ym mhob ystyr yn baröd iryfel. Pan ddarfu i Ddug Buckingham ymddieithrio oddiwrth y Brenhin, Richard y Trydydd, a phan ydoedd y blaid Lancasteraidd yn ymdrechu cynllunio priodas rhwng yr Argl- wyddes Eiizabeth a Iarll Richmond, edrychid ar Rhys ab Thomas fel person o'r pwys mwyaf i'w gael er cynnorthwyo gosod Richmond ar yr orsedd. I'r diben hwn yr oedd yn angenrheidiol anhebgorol cael Iarll Richmond drosodd i Loegr; ond nid oedd fodd iddo dirio yn un man, heb osod ei hun yn y perygl mwyaf, ond yn Aberdaugleddau; ac yr oedd Rhys ab Thomas yn hollol feistr yma, fel na allesid gwneuthur dim heb ei gydsyniad. Y cam cyntaf a gymmerwyd er mwyn ennill Rhys at achos Iarll Richmond, ydoedd gwneuthur heddwch rhyngddo a Dug Buckingharo ; yr hyn a wnaed, drwy i'r Dug a Rhys gyfarfod yn Nhrefcastell, ym mha le y cyttun- asant i gladdu ac ebargofi eu holí ymrafaelion. Dywedwÿd wrth y Brenhin Richard gan ei yspiwyr, bod* bradwriaeth yn cael ei chyn- llunio i'w erbyn yn ddirgelaidd gan Ddug Buckingham, ac eraill o gyf- eìllion Iarll Richmond; a'r canlyn-