Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 52. HYDREF, 1839. Cyf. IV. HYWEL DDA A'I DDILYNYDDION. Ynghylch canol y nawfed canrif, darfu i Rodri Mawr, Tywysog Gwynedd, uno holl Gymru yn un deyrnas, o dan ei arglwyddiacth ei hun ; oud o ddeutu amser ei farwol- aeth, tua'r flwyddyn 876, rhannodd ei deyrnas yn dair o dywysogaethau, gau roddi un i bob un o'i dri mab. I Merfyn efe a roddes deyrnas Powys, i Anarawd Gwynedd, holl siroedd presennol Gogledd Cymru, ac i Cadell Ceredigion, yn cynnwys siroedd Brycheiniog, Caerfyrddin, Aberteifî, Morganwg, Mynwy, a Phenfro. Gorsaf y llywodraeth a roddwyd gan Rodri Mawr yn Din- efwr, yn nyfFryn Tywi, Ue yr adeil- adodd balas. Digon tebyg mai amcan Rodri yn rhannu y deyrnas rhwng ei blant ydoedd, eu hattal i ymrafaelio ynghylch awdurdod. Rhoes y flaenoriaeth mewn enw i Dywysog Aberffraw, yn y Gogledd. Ond methodd y cyullun hwn atteb ydiben, ac yn y gwrthwyneb y trodd pethau allan, a hynny er niweidiau mawrion i'r wlad. Pan ydoedd Cymru yn cael ei Uywodraethu gan uri Pennadur, yr oedd yn alluog i amddiffyn ei hun, ac i gadw y geìyn- ion ymaith ; eithr pan rannwyd hi, gwanhaodd yn ei chryfder i wrth- wynebu y gelynion allanol, a gosod- odd ei hun yn agored i elynion raewnol. Wedi i Cadell, mab Rodri 2 N Mawr, gymmeryd meddiant o'i lyw- odraeth, nid hir y bu yn llonydd cyn arwain ei luoedd i diriogaethau ei frawd Merfyn, gan draws-fedd- iannu teyrnas Powys. Ymosodwyd yn ei dro ar Cadell yntau, oblegid Anarawd ei frawd, brenhin Gwyn- edd, yn yflwyddyn 892. a dywysodd fyddiu gadarn i siroedd Aberteifi, Penfro, a Chaerfyrddin, ac a wnaeth ddifrodiadau mawrion drwy yr holl wlad. Ym Mrut y Tywysogion, dywedir am yr amgylchiad hwn feí y canlyn:—"Oed Crist, 892, daeth Narawd brenhin Gwynedd i ddi- ffeithiaw Ceredigion, sef cyfoeth Cadell ei frawd, ac a losges yr holl dai a'r ydau yn Nyfed ac Ystrad Tywi yn greulon iawn." Bu farw Cadell yn y flwyddyn 907, a chan- lynwyd ef yn llywodraeth y Deheu- dir a Phowys gan ei fab hynaf Hywel, adnabyddus mewn hanes- yddiaeth Gymreig wrth yr enw Hywel Dda. Ar farwolaeth Idwal Foel, yn y flwyddyn 940, ychwan- egodd Hywel deyrnas Aberffraw at ei lywodraethau eraill, ac aeth yn. frenhin Cymru oll. Y mae teyrnasiad Hywel Dda yn gyfnod newydd mewn hanesiaeth Gyrareig. Yr oedd annibendod mawr yn y cyfreithiau, yr hyn a achosai lawer o uiweidiau yn y wlad, fel yr oedd mawr angen am eu