Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Hhif. 64. HYDREF, 1840. Cyf. V. GOLYGFEYDD CRISTÍONOGAETH. Rhif II.—Astudiad Prophwyd- oliaethau. Ystyrir y prophwydoliaethau, gan ryw ddynion, fel dosparth o'r Ysgrythyr Lân nad oes galwad neillduol arnynt i'w myfyrio, ac felly esgeulusir hwynt, a gadewir hwyut o'r naill du, fel trysor cudd- iedig nad oes modd i gael allan eu gwir ystyr. Ac nid yn unig ym- ddygir fel hyn at y prophwydol- iaethau, ond y mae rhyw fath o gymmeriadau yn dra choelgrefyddol yn eu cylch, ac yn ei ystyried yn bechod i ymyrraeth à hwynt, megis pe diben y Creawdwr ydoedd eu cadw mewn tywyllwch tragyfyth, ac yn waharddedig fel y pren yn Eden. Ond y mae y dosparth pro- phwydoliaethol o'r Ysgrythyrau yn bwysig iawn, ac yn galw am y sylw difrifolaf oddi wrthym, oblegid eu gwiredd ydyw y bach ar ba un y mae prawf y grefydd Gristionogol yn crogi ; ac nid yn unig galwant am ein sylw, ond ein dyledswydd ydyw eu myfyrio, ac ymdrechu eu deall, fel y dosparth pennaf o'r Datguddiad a welodd Duw fod yn dda ei roddi i'w greaduriaid. Y mae niferi lliosog o'r prophwydol- iaethau wedi eu cyflawnu, gyda golwg ar gwymp a chyfodiad bren- hiniaethau a chenhedloedd, ac yn 2N neillduol gyda golwg ar ymddang- osiad ein Harglwydd Iesu Grist yn y cnawd. Ac yn gymmaint a bod prophwydoliaethau pwysig o'r natur hyn wedi cael eu cyflawnu, yr ydym yn edrych ar y prophwydoliaethau eraill fel rhai a fyddaut yn sicr o gael eu cyflawnu; a'n dyîedswydd ydyw ymchwilio i mewn iddynt, megis i gynnifer o ffynhonnellau yn y rhai y mae dyfroedd pur a bywiol i'w cael, i'r eneidiau hynny a sych- edant am adnabyddiaeth o holl gynghor Duw yn ei sancteiddiaf Air. Y mae yn deilwng o'n sylw nad ydym i esgeuluso y prophwydol- iaethau o herwydd bod anhaws- derau ynddynt, oblegid yr ydym yn bendant yn cael ein galw i'w hys- tyried, ac y mae y gorchwyl o'u troi o'r neiìldu yn rhyfyg mawr, ac yn bechod mawr yn erbyn Yspryd y brophwydoliaeth. Yr oedd yr ar- ddeliad cyhoedd a wnaed o Fab Duw gan y nefoedd, pan ar ei fed- ydd y clywyd llef o'r nef yn dy- wedyd, " Hwn yw fy anwyl Fab," yn ddigon o dystiolaeth mai Mab Duw ydoedd ; ond nid mor gryf, nac yn gymmaint prawf o hynny a'r prophwydoliaetb.au ; oblegid, medd St. Pedr, yn ei ail Epistol, (pen. 1. 19.) " Ac y mae gennym air sicr- ach y prophwydi; yr hwn da y gwnewch fod yn dal arno, megis ar