Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 65. TACHWEDD, 1840. Cyf. V. GOLYGFEYDD CRISTIONOGAETH. Rhif III.—Dychweliad yr ludd- ewon i'w gwlad. Y MA.E rhyw dybiadau rhyfeddol wedi eu mabwysiadu gan nií'er liosog o dduwinyddion yr oes, gyda golwg ar had Abraham yn ol y cnawd; sef nad ydynt etto i feddiannu eu hen wlad, ac na chlywir sain eu caniadau Cristionogol, fel cenedl a chorph o bobl, byth ar fryniau a broydd glwysion Palestina. Ystyrir y genedl hon fel wedi ei llwyr ang- hofio gan ei Chrewr, mai ar grwydr y byddant ar hyd wahanol wledydd y ddaear hyd derfyn amser ; ac os bydd iddynt gael eu dychwelyd i'r fFydd Gristionogol, na bydd Canaan ddaearol dan eu traed fel corph o bobl; ond mai ym mhlith y cenhedl- oedd y dyrchafant fanieri y grces, ac y rhoddant ogoniant i Fab ydyn. Ond y ffordd oreu i benderfynu y pwngc hwn, ydyw troi at y gaìr ac at y dystiolaeth, er gweled pa beth a ddywedir am had Abraham yn- ddynt. Deut. 30. 1-—5. " A phan ddelo yr holl bethau hyn arnat, sef y fen- dith a'r felldith, y rhai a roddais o'th flaen, ac adgofio o honot hwynt ym mysg yr holl genhedloedd y rhai y'th yrrodd yr Àrglwydd dy Dduw di attynt; a dychwelyd o honot at yr Arglwydd dy Dduw, a gwrandaw 2R ar ei lais ef, yn ol yr hyn oll yr ydwyf yn ei orchymmyn i ti hedd- yw, ti a'th blant, à'th holl galon, ac a'th holl enaid: yna dychwel yr Arglwydd dy Ddtiw dy gaethiwed, ac y cymmer dragaredd arnat, ac y try, ac y'th gasgl o fysg yr holl bobloedd lle y'th wasgaro yr Ar- glwydd dy Dduw di. Pe y'th wthid i eithaf y nefoedd, oddi yno y'th gasglai yr Arglwydd dy Dduw, ac oddi yno y'th gymmerai. A'r Ar- glwydd dy Dduw a'th ddwg i'r tir a feddiannodd dy dadau, a thithau a'i meddienni: ac efe a fydd dda wrthyt, ac a'th wna yn amlach na'th dadau." Cospwyd yr Iuddewon â gwasgariad dros yr holl ddaear am eu gwrthgìliadau a'u gwrthodiad o'r Arglwydd ; ac er mwyn eu cadw gyda phnrdeb y gwasanaeth cref- yddol sefydledig yn eu plith, by- gythid hwynt à'r tramgyddiadau a'u goddiweddent, megis ag y gwneir yn yr adnodau difynnedig. Ond yn eu cyflwr deoledig a gwasgar- edig oblegid eu camweddau, add- ewir dychweliad yn ol iddynt, ar yr ammod o'u dychweliad yn ol at yr Arglwydd mewn edifeirwch oblegid eu hamryfuseddan. Ni all unrhyw ymadroddion fod yn fwy goleu a mwy pendant, ita'r rhai a geir yn yr adnodau uchod:—" Yna y dychwel yr Arglwydd dy gathiwed di, ac a'th