Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 66. RHAGFYR, 1840. Cyf. V. ARAETH DDIRWESTOL. Traddodwyd yr Araeth ganlynol yn Addoldy St. Giles, Llundain, ar y 17 o Fedi, 1840, gan y Parch. J. Jones, Gweinidog y Bedyddwyr, Capel S'íon, Merthyr Morganwg. Gyfeillion Cristionogol,—Pan yn eich annerch ar yr achlysur pre- sennol, dymunwn i chwi ystyried nad yw yr achos y cyfarfyddwn o'i herwydd yn un personol, megis ter- fysg rhwng dau a dau, ag y gellir ei derfynu heh lawer o swn ; ond pwynt cyíFredinol, yr hwn a'n casgl i areithle cyfFredinol, sydd a'i ddi- hen yn gyffredinol, ac a ergydia at ddrwg sydd yn dinystrio y tir yn gyffredinol, &c. Nid rhyw ddadl sectaraidd ydyw ychwaith, yn yr hon y mae zel ddall- bleidiol yr ymrysonwyr yn fynych yn ddigon o iawn am y camwri. Nid rhyw achos gwrth-wladwr- ìaethol ydyw ychwaith, yn yr hwn yr ymdrechir dadgymmalu yr aw- durdodau presennol ; ond achos o annhraethol fwy pwys—achos wedi ei sylfaenu ar egwyddorion anfarwol gwirionedd ; ac achos ar yr hwn y croga daioni dynoliaeth, breintiau gwlad, a dedwyddwch ein hiliog- aeth. Achos sydd a'i ddibenion mor uchel a dattodiad preswylwyr Ynys Prydain yn gyffredinol, a'r gymmydogaeth hon yn neillduol, o 2W gaethiwed mwy dychrynllyd na chaethiwed yr Aipht; ac o berygl mwy ofnadwy nag eiddo y Maho- metaniaid, wrth gerdded ar awch ellyn, mewn arswyd o gwympo i'r afon ddychymmygol o dân. Achos sydd yn amcanu difa y llenn ddam- niol o dywyllwch sydd ar feddwl dyn, torri y llyffetheiriau a forth- wyliodd anfoesoldeb, ac a ail sicr- haodd yr hen arferiad anifeilaidd, a chyfodi dyn uwchlaw y pryfed a ddifethir, gan daflu goleu ar ei gymmeriad a'i fywyd, teilwng o'i dynged mewn byd dyfodol ac an- weledig, lle y preswylia byth wedi y terfyno ei hoedl is haul. Ond er mai hyn yw ein diben proffesedig, etto ceir llawer, ym mysg yr uchel, yr isel, a'r canol raddau, a feiddiant wrthod eu cyn- northwy ar faes yr ymladdfa; ond os gwrthodant hwy, y mae daioni ein pwngc o'n tu, acfelly ni a dwng- ymrwymwn i ladd y drwg a choroni rhinwedd. Ceir lliaws i ddymuno ein llwyddiant i attal y Uif ofnadwy rhag rhedeg, ac i droi yn ol y llanw uffemol, yr hwu a ymdywallt trwy ddyfr-ddorau anghymmedroldeb ar draws y byd; etto ni ddeuant i'n cymmhorth yn erbyn y cedyrn. Dy- munant lwydd ar ein hymdrech, er dihuno y meddwyn o'r cwsg y tafl- odd y ddamedigaeth ddistyllog ef