Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 76. HYDREF, 1841. Cyi. VI. CAETHIWED BABILON. Bod dyn wedi myned yn llygredig, a'i feddwl wedi ymddieithrio oddi- wrth y gwir Dduw, sydd wirionedd a brofir yn feunyddiol, wrth ystyried ymddygiadau gwahanol Iwythau y ddaear, ynghyd â'n tuedd barhaus ein hunain i wyro ar ol yr hyn sydd ddrwg. Er llefaru o'r Duw Holl- alluog mewn iaith amlwg yn holl waith y greadigaeth fawr, er bod ol ei law yn ganfyddedig yng ngwei- nyddiadau ei ragluniaethau, ac er hod swn ei gerddediad idd ei glywed yn ysgwydiad ei wialennau uwch ein pennau; etto i'r fath iselderau y mae dyn wedi myned, yn y fath dy- wyllwch y mae yn ymdroi, ac y mae y fath dywyllwch yu teyrnasu dros ei enaid, feí na ddeall iaith amlyc- caf gogoniant! Pe oddiwrth yin- ddygiadau dyn y mae i ni ffurfio ein barn mewn perthynas i ddiben- ion ei greadigaeth, pe oddiwrth y Hwybrau y mae efe yn eu rhodio y mae i ni benderfynu ynghylch ei ddyledswydd, a phe oddiwrth y gwrthddrychau y mae efe yn ym- bleseru ynddynt y mae i ni farnu ar öl pa beth y dylai gogwydd yr enaid fyned, iawn ydyw ymbellhau oddi- ẃrth y gwir Dduw, cyfreithlawn ydyw sathru holl ddeddfau y nef, a rhinweddol dilyn pechod hyd y mae yn alluadwy i ni. Ond a chaniattau awdurdod y llywodraeth ddwyfol, 2N cyfaddef yr Ysgrythyrau wedi deilì* iaw oddiwrth Dduw, ac mai dyledus rhoddi pob ufudd-dod i orchym- mynion y Brenhin mawr, yna y mae dyn yn cael ei gondemnio yn eg» wyddor lywodraethol ei enaid, ei euog-farnu yn ei holl ymddygiadau croes i'r gwirionedd, a llygredigaeth ei natur yn dyfod i'r fath eglurdeb fel nas gellir ei wadu. Wedi colli o ddyn llygredig y drychfeddwl tei^ lwng am ei Grewr a'i Dduw, y dy^- chymmyg a roddwyd mewn gweith- rediad, a'r canlyniad fu i eiluu- addoliaeth ac aml-dduwiaeth, fel anghenfilod aml-bennog, esgyn i fynu o'r pwll diwaelod, a sefydlu eu gorseddau ar y ddaear, nes dwyn y rhan amlaf o'i thrigolion yn gaeth yn eu llyffetheiriau. Nid ydyw idd ei synnu yn gym- maint am y cenhedloedd, iddynt ymddieithrio, a cholli yr wybodaeth am yr uchaf Dduw; ond y mae yn rhyfedd i'r genedl sanctaidd, y fren- hinol offeiriadaeth, a'r llwythau y dangoswyd cymmaint o nerthoedd a rhyfeddodau Ioriddynt, ei anghofio, a rhannu y gogoniant, y mawl, a'r addoliad perthynol iddo rhwng mân dduwiau y cenhedloedd. Ond er pob amlygiadau o ewyìlys da a ffafr y nef iddynt, er derbyn o honynt oddiwrth yr Arglwydd, ac er dangos o hono ef ei nerth a'i^atlu mawr yn