Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 77. TACHWEDD, 1841. Cyf. VI. CAN Y FFYNNON. " Yna y canodd Israel y gân hon: Cyfod, ffynnon ; cenwch iddi." Y mae amlder trugareddau yn fynych yn ein gwneuthur yn ddibris o drngareddau. Pan fyddo dyn mewn digonedd, ni ystyria y derbyn- iai ei gymmydog friwsion ei fwrdd gyda diolchgarwch. Synu gan y rhai a breswyliant lannau y raôr fod ffynnon yn wrthddrych teilwng o ganiad ; ond yn gymmaint a bod gwahanol lannerchau y ddaear yn amrywio i'r fath raddau, nid rhy- fedd bod darganfyddiad ffynnon yn achos o lawenydd mor gyffredinol, ag yr awgrymmir bod y ffynnon hon i lwythau Israel yn anialwch Arabia. Cychwynodd yr had etholedig o'r Aipht ar sail addewid Duw, yr hon ni wannychodd ac ni phallodd, yn wyneb bod llu mawr iawn yn pwyso arnì, ac wrth ei dor yn feunyddiol yn derbyn eu cyfreidiau. Dangos- odd yr Hollalluog fawredd ei nerth mewn modd neillduöl yn eu gwared- igaeth o'u caethiwed ; amlhaodd ei wyrthiau a'i ryfeddodau yn yr Aipht, cyn i'r trawsion agor dorau eu car- charau; diosgodd fraich ei sanct- eiddrwydd mor eglur ym maes Soan ac yn nhir Ham, nes llwyr argy- hoeddi y gorthrymwyr o oferedd eu gwaith yn gwrthsefyll peiriannau y «ef, cyn cyhoeddi eu Jubili iddynt; 2R ac wedi i'r wlad gael ei llanw o alar ac ochain y gorchymmynodd Pharaoh ar iddynt ymadael, rhag ofn i'r orsedd fawr saethu allan daran-folltau adnewyddol, nes di- nystrio y wlad yn llwyr, a'i thrigol- ion gyda hi. Ond ni adawyd y llwythau gan yr addewid, pan gy- hoeddwyd dydd eu gwaredigaeth; ni ddirwynwyd y rhaffau a'u codasant o ddyfnderau pydewau eu caethiwed i fynu, ac ni thynnwyd y fraich a ddiosgwyd yn eu rhyddhad o safn lefiathan yr afon Nilus yn ol; ond hi a'u dilynai, ac a'u hamdoai â mentyll ei nodded, fel yr oeddynt dan warcheidwadaeth neillduol yr Hollalluog Dduw bob cam a rodd- ent, a'r llesgaf yn y llwythau yn wrthddrychau tirionwch ei ymys- garoedd ef. Pan oeddynt rhwng Migdol a'r môr, Piahiroth ar un llaw, Baalzephon ar y Uaw arall, a chyfyngderau yn ymdyrru ar gyf- yngderau, megis pe buasent bobl wedi eu darparu i ddinystr, wele oleuni mawr yn ymsaethu allan o'r nifwl tew, wele wawr yn torri o'r bryniau anfarwol, ac wele haul y nef yn saethu ei belydron aur dros gaerau yr addewid, ac yn eu mareh- ogaeth ; wele y Duwdod ei hun yn disgyn yn holl nerthoedd ei gad- ernid, ac yn cyfarwyddo olwynion ei gerbydau drwy donnau y dyfnder