Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 80. CHWEFROR, 1842. Cyf. VII. YR YMADAWIAD AG EDEN. Y mae rhyw wylofain tua phorth Eden, a bloeddio trist,megis bloedd ar ol colled fawr ! A ydynt y cyd- ìneiriaid cariadus, a welwyd yn rhodio llwybrau blodeuog y bara- dwys deg, ac yn ymlenwi o ddant- eithion pereiddiaf aeron melusion gardd Duw, yn cael eu deol o'r llannerch ddedwydd, a'u troi allan o'r caerau a wnaed er bod yn bre- swylfod iddynt gan law Ior ei hun ì Y mae'r wylo i'w glywed yn uwch uwch, a'r cwynfan yn cryfhau o hyd, a rhaid bod rhyw dramgwydd mawr wedi cymmeryd lle, oblegid doe yr oedd tonau emynuau y ddau newydd-weddog yn esgyn drwy lwyni cauadfrig gwyrdd-ddeiliog yr ardd drwy'r awyr bur i'r uchelion fry ; ac nid oedd i'w glywed drwy holl ardaloedd Eden ond llais cân a moliant, a phob llawenydd ysprydol. Rhaid bod rhyw amryfusedd wedi cymmeryd lle, oblegid distawrwydd prudd a deyrnasa drwy yr holl fan- gre; yr adar ni seiniant eu cerddor- iaetb oddi rhwng canghennau y coedydd tal-frigog ; y dail ni thryst- iant eu halawon; ac yn Ue bod y Shecina yn chwareu, ac yn taflu ei belydr nefol dros y fangre, ni chan- fyddir ond y nifwl tew yn goblygu y breswylfa lon yn ei fynwes. Dacw ein rhiaint cyntefig ym mhorth yr ardd, ac yn ymddangos megis mewn ymdrech galed, ac yn rhoddi pob arwyddion o'u hanewyllysgarwch i yraadael; oud y cherub hardd a*u trodd allan; a phan edrychasant drach eu cefuau, yr oedd yn gle- ddyf tanllyd ysgwydedig yn y porth, ac o'r fath burdeb fel na allasent edrych arno rhag eu marw yn y fan, pan ymgurent y tonnau greulonaf yn eu mynwesau oblegid eu colied fawr. Yn araf yr hwylient eu cam- rau ym mlaen, a'u dagrau a wlych- ent y meillion teg a'r blodau heirdd, a holl natur yn ei phrydferthion peunaf ymddangosai megis pe buas- ai yn y darfodedigaeth; oblegid y lili a grebychent eu dail, y briallu a ogwyddent bennau mewn llesg- rwydd tua'r ddaear, blodau y draîn oeddynt felynion, a phob tegwch cyntefig megis wedi canu yn iach yn dragywydd i gyfanneddle y ddaear hon. Ni ysgyrnygent ar eu gilydd, gan fwrw amryfusedd eu deoliad y naill ar y lla.ll; ond cyd- ddygent iau trallod mewn gostyng- eiddrwydd, ac fel rhai yn teimío mai hwy eu hunain a fuont yr unig achos o'r wasgfa flîn hon a'u go- ddiweddodd, ac nad oedd iddynt ddisgwyl oddiwrth yr had a hauas- ent, ondmedi mewn dagrau, a chas- glu cynhauaf toreithiog o ofid. Y mae ymadawiad ein rhieni cyntaf âg Eden yn dangos yn amlwg í ni,