Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 83. MAI, 1842. Cyf. VII. Y BORE BRAF. " Dros brydnawn yr erys wylof- ain, ac erbyn y bore y bydd gor- foledd." Dim ond y prydnawn i wylo, sef adeg fer, y nos i gysgu hun dawel a hir y bedd, ac erbyn y bore tywyniad gwawr o dragywydd- ol haf. Y mae taith y Cristion yn flin ac helbulus yn y fuchedd hon ; oblegid wedi ei ystyried yn ei holl gymmeriadau, a'i ddilyn yn ei holl anturiaethau, nid oes ond yr ochen- eidio, yr wylo, a'r griddfan yn per- thyn iddo gyda golwg ar y byd presennol; a'i holl ofidiau a'i di- lynant, hyd oni huno ynyr angeu, ac y gosodir ef i orphwyso. yng ngwely y bedd. Pan ystyriom y Cristion fel milwr ag sydd yn ym- ladd ei ffordd bob modfedd tua gwlad ei etifeddiaeth, lliosogrwydd, cynddaredd, a chadernid ei elynion, ynghyd â'u holl gynllwynion er di- nystrio ei enaid byth yng ngherwyn fawr yr ail farwolaeth, rhaid bod ei gyflwr yn flin a'i brofiad yn isel yn fynych, ac yntau mewn hiraeth mawr am gael ei draed ar gaerau y ddinas, yr hon ni fwrir clawdd yn ei herbyn yn oes oesoedd. Pan ys- tyriora y Cristion fel pererin ag sydd yn ymdynnu ym mlaeu tu a'i artref tragywyddol, y mae fynychaf yn di- oddef oblegid helbulon y daith ; y cymmydd ydynt ddyfnion iawn, y rhiwiau ydynt serthion iawn, y gwyntoedd ydynt nerthol iawn, y nosweithiau ydynt dywyllion iawn, a'r Hwybrau ydynt eirwon iawn, fel y mae fynychaf a'r dagrau ar ei ruddiau, ac yn bloeddio allan yn ddolefus nad oes ofid fel ei ofid ef. Ac felly yn ei holl gymmeriadau tra yn y fuchedd hon, y mae adfyd y Cri8tion yn fawr; erbyn y byddo gwlith Hermon yn ireiddio ei enaid, y mae ar ganol Gilboa; erbyn y byddo ar ben Pisgah yng ngolwg gwlad yr addewid, ac yn cael trem ar ddinas y palmwydd, y mae yng ngwaelodion y cymmydd duon, a braidd heb weled nef na daear; pan fyddo y wawr yn dechreu torri ar ei enaid, tywyllwch hanner nos a'i goblyga; a phan deimlo y jubili yn torri ar ei enaid, y mae cadwyn- au Ilyffetheiriau Babilon yn tynhan am dano. Ond wedi hyn, a mwy na hyn; wedi y lludded mawr a'r gwasgfeuon enaid, wedi bloeddio yn ddidor o chwerwder enaid, wedi y griddfannau a'r ocheneidiau trym- ion yn y glynnoedd, wedi bod allan yn y gwynt garw, pan oedd y dwy- reinwynt mawr yn gwneuthur i'r moroedd ferwi yn eu gwelyau ; wedi hyn a phethau eraill, y mae y drwa yn agoryd yng nghwrr pellaf dyffryn Achor, a'r wawr i'w gweled yn torri dros y bryniau draw, ac yn rhoddi golwg auraidd arnynt, ac adsain y