Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 85. GORPHENHAF, 1842. Cyf. VII. GWLEDD BELSASSAR. Yn gyffredinol, pan y mae rhag- luniaeth yn gwenu ar ddynion, ac amgylchiadau yn cydweithredu er eu dwyn i fri ac anrhydedd, yn lle ystyried eu rhwymedigaethau i'r Goruchaf Dduw am diriondeb ei drugareddau tuag attynt, a'u dyled- swydd i rodio yn llwybrau cyfiawn- der a barn, ymchwyddaut mewn balchder a ffrost, gan anghofio Duw, eu hunain, a'u cydgreaduriaid. Wedi darllen dalenuau hanesyddiaeth, y mae y gwirionedd hwn yn cael ei brofi yn anwadadwy, ac y mae ein sylwadau ni ein hunain ar ddynion y byd yn profi yr unrhyw wirionedd; oblegid, wedi i ddyn unwaith gael dyrchafiadau, efe a anghofia ei hun, a ddiystyra ragluniaethau Duw, a ddibrisia bob trugareddau, ac a ym- ddyga at ei gydgreaduriaid megis pe byddai efe o rywiogaeth wahanol iddynt. Y mae pob pechodau a gyflawnir yn erbyn y Duw mawr yn ffieidd-dra, a hynny yn eu natur eu hunain; ond y mae y pechod o ryfyg braidd yn fiieiddiach nag un- rhyw bechod arall, oblegid ei fod yn darbwyllo y dyn i dybied ei hun ei fod y peth nad ydyw mewn gwir- ionedd; ac unwaith pan farchogir hwn, oni fydd i drugaredd neillduol y nefoedd gyfryngu, dymchweliad a uinystr fydd y pen draw. Yr oedd yn naturiol i Belsassar, feì brenhin 2 A Babilon, wneuthur gwledd iV dy- wysogion a'i urddasolion, yr hon arferiad a ddilynid yn y dwyrain gyda mawrwychder diefelychiad ym mharthau eraill y ddaear; ac yr oedd yn naturiol iddo wneuthur ar- ddangosiad o'r fawredd a'i gyfoeth yn y wledd hon; ond yr oedd yn rhyfyg o'r mwyaf iddo ddefuyddio llestri teml Duw plant y gaethglud, i yfed iechyd duwiau Caldea, oblegid bod nerthoedd ei fraich a rhyfedd- odau ei allu wedi eu gwneuthur yn amlwg hyd yn nod yn y fangre hon- no, heblaw ei fod wedi cael ei gyd- nabod drwy gyhoeddiad o'r orsedd honno, fel yr unig wir a bywiol Dduw. Gwnaeth Belsassar y wledd hon, pan ar ddibyn ei drangcedigaeth. Yr oedd Cyrus a'i luoedd yn gwar- chau ar Fabilon y pryd hwn, a gall- esid meddwl bod enbydrwydd ei sefyllfa y fath, fel na buasai ynddo galon na thuedd at y cyfryw orch- wyl; ond yr oedd ei ymddibyniad gymmaint ar gadernid caerau y ddinas, fel y tybiai eu bod yn an- oresgynadwy, ac nad oedd efe na'i bendefigion yn yr enbydrwydd llei- af. Pe buasai y pen coronog hwn yn edrych oddi amgylch, pe buasai yn synied ei gyflwr, a phe buasai yn ystyried damweiniau rhyfel, ỳr oedd ganddo ar y pryd hwnnw ddi-