Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL I?HIF. HYDREF, 1842. Cyf. VII. BEDYDD. Y mae Bedydd dwfr yn achos o j gynhwrf a dadleuon poethion yn y j byd crefyddol er ys oesau ; ac yng j norhylch er ys blwyddyn, y mae i Cymru megis wedi adnewyddu gyda golwg ar y ddadl hon, a hynny yn bennaf drwy offerynoliaeth yrln- dependiaid. Ond y mae wedi dig- wyddo hyd yma, bod y dadleuwyr yn ddieithriad yn sefylì gydag ym- ylau yr ordinhad, ac yn gadael ei bywyd a'i chnewyllyn o'r naill du; ac os beiddia rhyw un annelu at wythien fawr bedydd, cyfodir yr alarwm fawr yn ei gylch, gan ei alw yn Babydd, a'i groniclo yn llechres dnwinyddion Rhufain. Gellid me- ddwl, wrth ystwr ac ysgermain yr Independiaid, eu bod yn zelog iawn dros yr ordinhad o Fedydd; ond er eu hystwr a'u dwndwr mawr, di- raddiaut yr ordinhad sanctaidd hon j inor bell ag y gall dynion mewn cnawd ei diraddio, ac ni cha neb ei hanrhydeddu ganddynt heb iddynt hwy eu gwneuthur yn nod i'w saeth- an» a'u hamdoi â'u gwaradwydd- iadau. Dywedir yn fynych gan- ddynt,mewn ymddiddanion ynghylch Bedydd, mai plisgyn ydyw, na ddy- üd ymddadleu ynghylch w, ac mai ynghyîch y pethau pwysig y dylid siarad, ac nid royned i ddadleu ynghylch peth mor ddibwys a Bed- ydd ! Dyrnodiant athrawiaeth Eg- 2N lwys Loegr am Fedydd yn ddior- phwys â'u gyrdd, oblegid bod y geiriau ad-eni ac ad-enedigaeth yn cael eu defnyddio yn ei Gwasanaeth mewn perthynas â'r bedyddiedig; ac ar y llaw arall, dyrnodiant y Bedyddwyr mor ddiarbed, am eu bod yn rhoddi gormod pwys ar Fedydd ; ac y mae llawer iawn o ddyliaid y sect hon, er mwyn ym- ryddhau a glanhau eu hunain oddi- wrth charges yr Independiaid, yn gwarthruddo yr ordinhad, drwy ddywedyd nad oes ynddi un rhin- wedd, ond yn unig yr ufudd-dod a roddir gan y bedyddiedig i orchym- myn Brenhin y saint. Y mae y Bedyddwyr, ar y cwbl, a'u golyg- iadau yn gywirach ar yr ordinhad o Fedydd fyrdd o weithiau na'r Inde- pendiaid; oblegid y maent hwy yn dilyn llythyren y commissiwn, trwy ofyn proffes o grediniaeth oddiwrth y bedyddiedig, a'i drochi yn ddar- bodus a diesgeulus yn y dwfr; a thyma Athrawiaeth Bedydd Eglwys i Loegr; oblegid y mae pawh a fed-** yddir yn yr Eglwys, yn dybiedig wedi credu, ac wedi cael eu trochì. Yr Independiaid o'u tu hwythau ydynt wedi gadael Bedydd gwir y Testament Newydd yn hollol o'r neilldu, ac wedi gadael y commis- siwn yn hollol o'r neilldu, ac wedi ffurfio rhyw fath o fedydd heb nac