Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 91. IONAWR, 1843. Cyf. VIII. B E D Y D D. Er pan ysgrifennais fy nhraeth- awd blaenorol ar Fedydd yn yr Haul, y mae y pwngc wedi gor- phwys gymmaint ar fy meddwl, fel na chollais olwg arno o'r pryd hwn- nw hyd yn awr; ac er y cyfaddefaf yn rhwydd, nad ydwyf hyd yma yn gallu gweled pethau ag ydynt yn perthynu i Fedydd yn y goleuni y dy- munwn, etto yn ostyngedig cynnyg- iaf rai sylwadau ym mhellach ar y matter hwn, gan obeithio y bydd i hynny gyffroi eraill i gynnyg eu syl- wadau hwythau, fel y deuer i iawn syniadau ar yr ordinhad sanctaidd hon. Rhoddodd ddywenydd nid bychan i mi, pan ddeallais fod fy nhraethawd blaenorol yn cael ei gymmeradwyo gan Offeiriaid, y rhai y mae gennyf y parch mwyaf di- ffuant tuag attynt; a'r rhai, er nad oeddynt yn cydfyned â'r oll o hono, etto a feddent ar y boneddigeidd- rwydd a'r cariad Cristionogol hwn- nw, fel yr ymddygasant tuag atto yn eu llythyrau cyfrinachol at yr awdwr gyda y tirionwch mwyaf. Yr ydwyf hefyd wedi derbyn yr unig wobr a'm boddlonai oddiwrth y traethawd hwnnw, sef deall, trwy Offeiriaid o fri mawr, mai ì fwy-fwy o sylw y daw yr ordinhad hon, fel ag y rhoddir hi yn ei gorsaf briodol, ac y derbynia y parch hwnnw oddi wrtnym ag sydcl yn gweddu iddi fel ordinhad Duw, ac nid bod yn des- ! tun ffeiriau ac interludau halog- ! edig, fel y mae ffaglwyr anffyddiog wedi ei gwneuthur eT mwyn march- ogaeth y wlad trwy dwyll. Yn i wylaidd a gostyngedig y cynnygiaf ! y sylwadau presennol i fyfyriaeth ' darllenwyr parchus yr Haul, ac ni ; fydd neb yn fwy diolchgar am ; oleuni newydd ar y pwugc hwu, ac | am well a mwy ysgrythyrol syl- | wadau arno, na'r ysgrifennydd pre- | sennol. Profais drwy yr Ysgrythyrau, yn? i fy nhraethawd blaenorol, bod Bed- j ydd mewn rhyw ystyr neu gilydd yn | dwyn perthynas âg ail-enedigaeth, | ac yn cael ei alw yn bendant yn I olchiad yr adenedigaeth yn y Tes- tament Newydd; ond y modd y mae ei ras yn gweithredu a adewais yn y tywyllwch, yr hyn ni allaswn lai na'i wneuthur, oblegid tywyllwch a orchuddiai fy meddwl i raddau gyda golwg ar y gweithrediad. Ond yn awr, a ydym ni yn sicr yn amgyffred a deall yr athraw- iaeth o ail-enedigaeth ? A ydyni ui ddira wedi derbyn yr athrawiaeth hon yn ei chyssylltiad â syniadau ac â thybiadau y Schoohnen hen neu | ddiweddar ? A ydym ni ddim wedi derbyn yr athrawiaeth hon yn y I gwisgoedd yn y rhai y cynnygîr hi 1 i'n sylw gan y duwinyddion, yn hÿt-