Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 101. TACHWEDD, 1843. Cyf. VIII. EGLWYS WLADWRIAETHOL.—(Parhad o tu dal. 297 J Ond er mwyn olrhain egwyddor eglwysig, nid yn unig y mae yn gyf- reithlon wynebu ar holl faes yr Ys- grythyrau, eithr y mae yn gam ac yn anghyfiawnder â'r Ysgrythyrau, yn sarbad ar y datguddiad a roes | Duw i ni, ac yn bechod dirfawr yn | erbyn yr Argîwydd i'w hesgeuluso pan fyddo pwngc crefyddol mewn dadl. Dywedir wrthym yn bendaut j gan ein Harglwydd ei hun, am j 4 chwilio yr Ysgrythyrau ;' ac y \ mae yn deilwng o sylw, mai Ysgry- thyrau yr Hen Destament yn unig a | hanfodent pan roed y cyfarwyddyd crybwylledig. Dyweda St. Paul, bod * yr holl Ysgrythyr wedi ei rhoddi gan ysprydoliaeth Duw, ac yn fuddiol i athrawiaethu, i argy- hoeddi, i geryddu, i hyfforddi mewn cyfiawnder ; fel y byddo dyn Duw yn berffaith, wedi ei berffeithio i bob gweithred dda.' Ac a ydyw yr Ysgrythyrau hyn, y dywedir eu bod wedi deilliaw drwy ysprydoliaeth Duw, ym ammherthynasol ac o ddim awdurdod, pan brofont bwngc mor oleua'rdydd? Y mae y Bibl yn Fibl cyfiawn; y mae yn ddwyfol ac yn anffaeledig; ac yn awr, yng ngoleu y JBibl at y pwngc raewn dadl,sef Cyssylltiadrhwng Eglwys a Gwladwriaeth. Yn fiaenaf, Yr oedd y cyssylltiad rhwng eg- lwys a gwladwriaeth yn egwyddor 2S ag ydoedd mewn ymarferiad yn oes y patrieirch. Yr ydys wedi sylwi yn barod, nad oedd egwyddorion llywodraeth wladol wedi eu sefydlu cyu y diluw, megis ag y sefydlwyd hwynt wedi hynny. Cyn y diluw yr oedd y llywodraeth yn nwylaw y pennau teuluoedd, a chrefydd mewn cyssylltiad â'r awdurdod honno; o herwydd yr ydym yn ei chael felly yn fuan wedi y diluw dan lywodr- aeth gwr ag ydoedd yn gysgod neillduol o Fab Duw, ac ni chry- bwyllir gair mai peth newydd yd- oedd, a ychwanegwyd at yr eglwys drwy draws-lywodraeth gormeswr. Gen. 14. 18. ' Melchisedec hefyd, brenin Salem, a ddug allan fara a gwin ; ac efe oedd offeiriaid y Duw goruchaf.' Crybwyllir yma ddau beth yn neillduol am Melchisedec ; sef ei fod yn dywysog gwladol, ac yn wei- nidog eglwysig—yn offeiriad y Duw goruchaf. Yr oedd eglwys a gwlad- wriaeth yn ei berson; a than ei deyrnasiad yn Salera, yr oedd y cys- sylltiad yn amlwg yn hanfodi rhwng yr eglwys a'r wladwriaeth. Dy- wedir yn neiilduol ara Grist, yn yr Epistol at yr Hebreaid, ' ei fod yu offeiriad yn dragywydd yn ol urdd Melchisedec;' ac y mae hyn yn cadw draw bob meddwl i Melchise- dec wneuthur dim yn anghristion- ogol. A chyda golwg ar y gwr