Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. Rhif. 104. CHWEFROR, 1844. Cyf. IX. EGLWYS WLADWRIAETHOL.—(Parhad o tudalll.) 3. Aelodau. Ehag i neb gael | ei gyhuddo o fod yn erlidiwr ac yn warthruddwr, ni roddir dim ger bron y darllenydd yma etto, ond ymad- roddion Mr. James, o'r Church Member'â Guide ; a chofied y dar- llenydd ei fod ef yn awr yn fyw, ac yn weinidog parchus a chymmer- adwy ym mhlith yr Anymddibyn- wyr yn Birmingham:—" Y maent yn fynych mewn brys mawr yn dewis bugail, ac yn fuau yn cael digon ar ddyn eu dewisiad. An- fynych iawn y cymmeradwyant dros saith mlynedd o araser; ac y mae hyn mor gyfrodedd, fel y mae eu cymmydogion yn disgwyl cyfnewid- iad pan ddel yr amseri ben. Y mae er gwarth tragywyddol i rai eglwysi, er eu bod yn meddu y gallti, etto ni roddant ond tâl tlodaidd o'u cyfoeth ì'w gweinidog. Cynnulleidfa, yr hon a roddai ddeg punt y flwy- ddyn i'w gweinidog, gan ei adael i lafurio gydag ysgol i wneuthur y diffyg i fynu, a anfonodd ddirprwy- wyr atto, i fynegi iddo bod ei bre- gethau yn dlodaidd. * Gwir iawn/ ebai y gweiuidog, ' nid ydynt mor dda ag y dylent fod: ond y maent cystal ag a bregethir gan un pre- gethwr âeg punt y flwyddyn yn y deyrnas/ Carant eu gweinidog yn anwyl â'u gwefusau, ond cashant ef i'r un graddau â'u llogellan. Ym- ddygant atto yr un fath ag y gwneir at fwystfilod gwylltion, y rhai a ddofir i ymostyngiad drwy newyn ; hwy a'i cadwant yn ostyngedig drwy ei gadw yn dlawd! Y mae yn ddigrif clywed fel y mae rhai per- sonau yn erfyn ar Ddaw i fendithio eu gweinidog yn ei gawell ac yn ei store, pryd y maent wedi gofalu ar i gawell y dyn truan fod yn wag, a'i store yn ddim ei hun. Y maent wedi ei weled yn ymdreehu â go- falon ei deulu cyunyddol, wedi sylwi ar y cwmmwl a'r duwch, fel yr oeddynt yn tywyllu ac yn aros ar ei amrantau; gwyddent am ei ang- heuion ; ac etto, er bod yn allyog i ddyblu ei gyflog, ac i ymlid ei flin- derau, gommeddasant godi ei gyflog, a hwy a'i hyspeiliasant ef o'i gy- suron, naill aì er mwyn boddloni eu cybydd-dod, ueu er boddhau eu cnawdolrwydd. Mewn amryw o'n heglwysi, y mae y bugaü wedi ei osod islaw ei lefel. Nid oes ganddo un gwahaniaeth swyddogol, nea awdurdod. Efe a all wenieithio fel truthiwr, begian fel gwas, a dy- wedyd yn deg fel carwr; ond ni cha efe orchymmyn fel llywodr- aethwr. Ymddygant atto megis pe na allai deimlo dim ond ergydion; aufonant lythyrau dirmygus a di- enw. Y raae rhai yu dra naturus. Mi a fynnwn destun a'r Ysgrythyr