Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 111. MEDI, 1844. Cyf. IX. OCHENEÍDIAU YB AREITHFA. " Y prophwyd a breuddwyd gan- ddo, myneged freuddwyd ; a'r hwn y mae ganddo fy ngair, llefared fy ngair mewn gwirionedd." Jerem. 23. 28. Ymddengys yn dra amlwg, bod pregethu, neu ddysgu gwirioneddau dwyfol, o hynafiaeth mwy nag y mae llawer iawn o ddynion yn me- ddwl; ac yn ddiau y mae yr Ysgry- thyrau Sanctaidd yn teilyngu mwy o barch nag y mae amryw yn yr oes bresenuol yn tybied. Ond fel y mae y sefydliadau goreu, ardderch- occaf, a theilyngaf yn cael eu cam- ddefnyddio trwy ymarferyd yn fy- nych â hwynt, felly hefyd y mae y gorchwyl o bregethu, yn neillduol pregethu Cymreig; yr hwn, yn nwylaw dynion annoeth, annysg- edig, a phenglogaidd, sydd wedi cael ei halogi mor erchyll, fel y tybia y nifer liosoccaf ym mhlith y werin, mai pregethu ydyw adrodd breuddwyd, ac mai adrodd breu- ddwyd ydyw pregethu. Gwir di- ddadl ydyw, bod yr Yspryd Glân yn cymhwyso ac yn donio dynion i'r gorchwyl pwysig hwn, yn arddel eu gweinidogaeth, yn Uwyddo eu hym- drechion, ac yn rhoddi arwyddiou o'i foddlonrwydd ar eu gweithred- iadau ; etto angenrhaid ydyw i ni ystyried, bod y rhai a gymhwysir 2 M ganddo i'r gorchwyl, yn ogoniant ac yn dwyn clod i'r weinidogaeth,drwy eu trefn, eu doethineb, a'u gwybod- aeth, yn cymhwyso gwirioneddau pwysfawr yr efengyl at eu gwran- dawyr. Nid ydyw i'w gredu bod neb, yn yr oesau diweddaf hyn, wedi derbyn unrhyw ddoniau gwyrthiol, er eu cymhwyso i swydd sanctaidd y weinidogaeth, fel yn yr amserau gynt; a phwy bynnag a ymdrechant argraphu y dyb hon ar feddyliau eu gwrandawyr, twyllwyr hoccedus yd- ynt, yn gwatwar doniau Duw, ac yn dinystrio eneidiau dynion. Ond diau y gall fod yr wybodaeth, y ddoethineb, a'r dealltwriaeth yn cynnyddu, yn amlhau, ac yn ych- wancgu, drwy lafnr ac ymdrechion y person yn y swydd sanctaidd ddy- wededig, a'r Yspryd Glân yn ben- dithio pob ymdrech o'i eiddo at ych- wanegol gynnydd, tuag at iddo fod o leshad mawr a chysur i'w wran- dawyr, ac er adeiladaeth Eglwys Crist ar y ddaear. Bod dysgeid- iaeth yn angenrheidiol i'r weinidog- aeth Gristionogol, ni wedir gan neb, ond gan y rhai ag ydynt yn eithaf camsyniol ynghylch natur y swydd, a rhwymedigaethau y rhai a ym- geisiant â hi ; ynghyd â chan y rhai hynny ag y mac eu bywioliaeth yn ymddibynnu ar gadw y bobl mewn tywyllwch. Ni all dim fod yn am-