Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. Rhif. 114. RHAGFYR, 1844. Cyf. IX. DOSPARTH YMARFEROL YR EGLWYS.—(O tu dal. 342.) Y maä crefydd i'w gweithio allan, ac nid oes segurdod yn perthyn iddi mewn gweiuidogion na phobl; ond y mae amrywiaeth barnau nid ychydig ynghylch y dull y mae crefydd i'w gweithio allan, fel ag i atteb y diben goreu gyda golwg ar leshad gwirioneddol eneidiau dyn- ion. Gweithia un dosparth o gref- yddwyr yn zelog ac egniol yn y dull hwn, a chondemnir y gwaith a'r dull gan ddosparth araü o gref- yddwyr, y rhai a gyhoeddant' y byddal segurdod yu rhiuwedd mewn cyferbyniad i ddrygedd y gwaith a gyflawnir. Ymffrost ein sectariaid o bob rhywiogaethau ydyw, nid yn unîg eu bod hwy yn gweithio, ond mai hwynthwy yn unig sydd yn gweithio, a bod yr Eglwys yn ym- estyn ar wely diogi, ac yn cysgu ei thymhor allan yn ddiwaith. Gwir- ionedd, a gwirionedd galarus hefyd ydyw, i lawer o Weinidogion yr Eglwys, yn neillduol yng Nghymru, yn yr oes ddiweddaf, syrthio i gysg- adiwydd, a diogi eu tymhor allan ; nc esgeulusdra yr Esgobion a'r Offeiriaid yn unig a fu yr achos o Iwydd yr Ymneilldnwyr yn y Dy- wysogaeth ; ond ni tharddai y di- ffrwythdra hwn oddiar natur cyfun- drefn ac egwyddorion yr Eglẅys, eithr oddiar natur lygredig dyn \ a honno yn egluro ci hun hyd yn nod 2 Y yn nifatterwch a diogi Gweinidog» ion y cyssegr, yn ymroddi î es- mwythder, yn lle gweithio allan eu swyddau sanctaidd, er gogoniant i Dduw a lleshad i eneidiau dynion. Yn wyneb y cyffroad gweithgar ag sydd wedi cymmeryd lle yn yr Eg- lwys Gymreig, yn neillduol felly yn Esgobaeth Tý-Ddewi ; pa gyffroad a ddechreuwyd gan yr Esgob Bur- gess, ac a weithir ym mlaen yn egniol a nerthol gan yr Esgob Thirl- wall yn bresennol ; dyweda ein sectariaid yn wyneb-eofn maî oddi wrthynt hwy y mae yr Eglwys wedi benthycca dull ei gweithrediadau ; ac y mae y dyb gyfeiliornus hon wedi cael ei rhoddi yng nghalon pob Yraneillduwr i'w chredu, ac wedi ei dysgu i dafod pob Ymneillduwr i'w llefaru. Y dyb a'r haeriad ydyw, mai oddiwrth yr Ymneiìlduwr y mae yr Eglwys, yn neillduol felly yn Esgobaeth Tŷ-Ddewi, wedi ben- thycca cynlluniau gweithio, ac mai eu dilyn hwynt y mae yr Eglwys, o ganlyniad mai iddynt hwy y perthyu blaenoriaeth gweithio, ac mai hwynt- hwy a ddylent gael gwisgo coron gogoniant gweithio crefyddol yng Nghymru. Bydd yn synn iawn gau yr Ymneillduwyr glywed, ac yn synn hefyd gan rai Eglwyswyr glywed, roai yn groes hoîìol i hyn y mae y peth yn bod ; mor groes i