Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 129. MAWRTH, 1846. Cyf. XI. BUDDIOLDEB YSRIFENYDDIAETH. Ymddengys y gelfyddyd hon ar yr olwg gytitaf arni yn un ddistadl, ac nad anhawdd i bawb ei dysgu a'i hymarferyd ; ond, ysywaeth, nid dyna y derbyniad groesawusa gaf- odd, nac sydd iddi yn bresennol, yan ddynolryw yn gyffredin ; er, efallai, ei hod yn fwy blodeuawg yn yr oes hon nag y bu erioed. Y mae y gelfyddyd o ysgrifennu wedi bod mewn ymarferiad er yn foreu, a llawer dull a modd wedi bod mewn gweithrediad arni. Bernir, gyda llawer o briodoldeb, nad papur oedd gan ysgrifenwyr ar y cyntaf; ond mai yn hytrach taw torri y llythyr- ennau yr oeddynt ar goed, pres, a phlwm, &c., mal yr oedd y def- nydfliau yn atteb. Dechreuodd yr arferiad yn foreu, mal yr ymddengys fod adhoblogwyr y ddaear yn fuan wedi y dylif mewn meddiant o honi; ac nid ammhriodol yw meddwl y gallasai fod ym meddiant rhai o'r cynddylifiaid, ac mai oddi wrthynt hwy y cadwyd hon, er bndd a lles- iant ail bohlogwyr y greadigigaeth, ym meddiant rhai o deulu Noah, yn llong Naf Neifion, pan foddwyd pob bod byw na chawsant breswylfa rhwng ei hesíyll. Rhaid bod y gel- fyddyd hon wedi derbyn pareh, ym- arferiad, a sylw boreuol o amser y dylif ym mlaen ; oblegid cadwyd banes am drigolion y byd pan oedd- ynt yn arferyd yr un dafodiaîth, eu barn am ail-ddyfodiad y dylif, ad- eiladu y Tŵr, cymmysgu eu hiaith, pob penteubi yn cael bod yn gyffion gwahanol genhedloedd y ddaear, a llawer o grybwyllion teilwng eraill a gadwyd, hyd amser Abraham, a dy- fodiad ei hanion yn genedl gref a neillduedig, idd yr hon yn unig y dangosai y Bod Mawr ei lewyrch a rhan o'i liresennoldeb. Canfyddir enwogion Groeg ac Athen, er yn foreu, yn nofiaw mewn gwybodaeth gytìawn o honi ; a thrwy hon y cadwyd gwybodau yr bynafiaid heb eu colli; oblegid, pe na buasai ys- gfrifennu mewn ymarferiad, ni fedd- iannasem y radd leiaf am fedrus- rwydd y cyn-wroniaid, eu rhedeg- feydd a'u campiau Olympaidd, eu rhyfeloedd a'u chwyldroadau_ yr al.tnas a'r difrodau, yr hud a'r twyll a gyflawnwyd o fewn eu tiriog- aethau, a thrais a gerwindeb am- rywiol o'u llywodraethwyr. Heb ysgrifenyddiaeth, ni fuasai gennym ni neb o ganiadau bythgofawl a gorchestawl Homer, a Virgil, a lluoedd eraill o. berchennogion yr Awen foreuawl; syniadau a syml- edd naturiol y rhai ydynt yn anadlu# archwaeth mor gynhenid a phryd- ferth ag anianawd eu testunau, y rhai a fuasent wedi suddaw i fôr o anghof» ac nad allasai traddodiadau