Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 132. MEHEFIN, 1846. Cyf. XI. "Y GWIR YN ERBYN Y tfAU;" Neu Eglwysiaeth ac Ymneilhluaelh yn Llanrwst a'i Chyffi.iiau; aäas, Edeyrn versu* Harrop, mewn Dadl a gynnaliwyd yn Neuadd y Dref, Llanrwst, nos Wener, Rhagfyr 12,1845. Mrd. Gol. yn Llanrwst A mi ar fy nhaith mis Tachwedd diw- eddaf, ymosodwyd arnaf yn ddiocd, nid yu y modd boneddigeiddiaf, gan rai o'r Ymneillduwyr, nid o herwydd fy mod yu droseddwr deddfau'r nef na'r ddaear, ond am nad oeddwn yn ymuno â hwynt yn eu cynniweir- feydd Radicalaidd ; am fy mod yn aelod o'r Eglwys Sefydledig, yr hon a alwent yn Buttain Fawr; ac am na phlygwn i'r ddelw fawr a gyfodwyd trwy íFanaticiaeth Robert Rrown, ac eraill o'i gyffelyb. Ni chawn lonydd ganddynt,er nad oedd- wn yn eu haflonyddu ; ac ni ym- foddlonent fel dynion ar ddadl deg a rheswm cywir pa ham yr wyf ac yr oeddwn yn Eglwyswr; eithr mynnent fyned yn Ue Duw i eistedd ar fy ngbydwybod, yr hon nad oes gan un dyn y radd leiaf o hawl i'w chyffwrdd, chwaithach ei barnu. Duw yn unig a biau trin y gydwy- bod ; ac arwydd o wendîd ac anwy- bodaeth ydyw clywed neb yn gofyn a ydwyf yn Eglwyswr o gydwybod ; ac anfoneddigeiddrwydd o'r mwyaf ydyw haeru nad ydyw dyn a fyddo yn proffesu unrhyw beth yn gwneud hynny o gydwybod; cr hynny, felly y gwna yr Ymneillduwrr yn gyffredinol. Y mae yn aros yn Llanrwst ryw ddynyn a elwir Robert Harrop, crydd yn ol ei gelfyddyd, yn ol ei farn yn Pharisead, yn ol ei zel yn erlid yr Eglwys, ac yn ol ei fuchedd yn cablu pawb nad ydynt yr un fath ag ef ei hun ; a pha fodd y mae efe ei hun, pe buasai hen Ddewin Cwrt y Cadno yn fyw, ni allasai ddy- wedyd ; oblegid y mae mor aflouydd a Rhaiadr y Niagara fawr, ac mor ansefydlog a cheiliog gwynt. A rhag i chwi fy ammeu, mi a'ch sicrhaf iddo fod yn aelod braidd ym mhob gorwel a fedd Ymneillduaeth yn y dref hon, ac y raae yn awr yn wrthodedig ganddynt oll. Clywais ei fod ef yn awr'yn bwriadu cyfodì sect newydd, a elwir y Nonsuch Harropaidd, ac am adeiladu eglwys iddo ei hun, gyda hen garnau myn- awydion, mesurau traed, &c. ar sail y Lapstone, ac yntau ei hun yn ben conglfaen, Efe a lwydda yn sicr; oblegid y mae y byd yn ysu am ryw beth newydd yn barhaus. Arferai y dynyn hwn ar amserau, yn enwedig drannoeth wedi'r ffair, gadw math o noswaith lawen, wrth