Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 140. CHWEFROR, 1847. Cyf. XII. BLINDERAU JACOB. ' Ychydig a drwg fu dyddiau blyn- yddoedd fy einioes'—Jacob. Dyma noson olaf y flwyddyn un mil, wyth cant, a chwech a deugain o'r Cyfnod Cristionogol; ac fel hyn, o flwyddyn i flwyddyn, dirwynir i fynu, nid yn unig ein heinioes ni, ond oed y byd; a thrwy ddirwyn- iad amser fel hyn y naiìl flwyddyn ar ol y llall, cyrhaedda ei funud olaf, pryd y tynga yr angel, i'r Hwn sydd yn byw yn oes oesoedd, na bydd araser mwyach. Yn ein hoes ferr ni yn y fuchedd hon, yr ydym wedi cael profiad helaeth o'r cwp- paneidiau chwerwon ag ydynt wedi dyfod i ran dynolion trwy bechod ; oblegid, pan edrychom yn ol ar y gyfran o daith yr anialwch yr ym- lwybrasom drwyddi, ni allwn alw i'n cof am gymmaint a tnunud na byddai rhyw boen dan y fron, rhyw och yu y fynwes, rhyw flinder yn y galon, rhyw wasgfa ar y meddwl, rhyw dymhestl yn curo ar yr enaid, a thonnau gofidiau yn ymlenwi y naill arol y Uall, fel ag'ygallwu ddy- wedyd yn brofiadol mai drwy ganol glynn wylofain y bu eiu taith hyd yn hyn; ac felly y mae i barhau, îiyd oni chroesom afon yr Iorddonen. Mae dyn wedi cael ei eni i flinder megis ag yr eheda y wreichionen i fynu ; mae wedi cael ei eni i fyd llawn o afonydd ac aberoedd dyfr- oedd Mara ; wedi ei eni i fyd yn yr hwn y mae y cystudd mawr yn teyr- nasu mewn rhwysg llawn ; ac wedi ei eni i fyd nad oes dim yn ei gyf- oeth, dim yn ei fwyniant, na dim yn ei natur, ag a wna esmwythau y loesion hynny ag y mae pechod wedi eu hachosi i feibion a merch- ed Adda. Gwr a aned o wraig, sydd fyrr o ddyddiau, a llawn o helbul; ac y mae y gwirionedd hwn wedi cael ei brofi yn ei berthynas â phob un ag a ddaeth i'r byd erioed, ac wedi cael ei wirio ym mhrofiadau y niferi ag ydynt ym mhriddellau marwoldeb, yn gystal ac ym mhrof- iadau y llu dirfawr ag ydynt yu prysuro tua chaerau y bedd ; ac wrth ystyried bod y profiad hwn mor gyffredinol, nid rhyfedd i'r pa- triarch Jacob ddywedyd, pan yng ngŵydd teyrn yr Aipht,—* Ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes.' Wedi darllen hanes y patriarch. Jacob o'i febyd i'w fedd, wedi ei ddilyn drwy holl lwybrau dyrus taith yr anialwch, ac wedi craffu arno fel oen egwan cneifiedig ar drummau y mynyddoedd yn cael ei guro gan y tymhestloedd, y mae ein calonnau yn gwaedu mewn tosturi atto, nid am fod ei ddyddiau wedi bod yn ychydig, ond oblegid iddynt