Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. Rhif. 141. MAWRTH, 1847. Cyf. XII. DYNGARWCH. "Pwy gan hynny o'r tri hyn, yr ydwyt ti yn tyhied ei fod yn gym- mydog i'r hwn a syrthiasai ym mhlith lladron ? Ac efe a ddywedodd, Yr hwn a wnaeth drugaredd âg ef. A'r Iesu am hynny a ddywedodd wrtho, Dos a gwna dithau yr un modd." Nid oes dim, ac ni all dim fod, a ddiffrwytha ac a ddinystria gariad yn yr un cyffelyb fodd ag y gwna yspryd plaid. Mae yr yspryd hwn yn caethiwo y corph a'i holl rannau, ac yn caethiwo yr enaid a'r holl gynneddfau a berthynant iddo. Llygaid y dyn a lywodraethir gan yspryd plaid, ac ni welant ond ei ddosparth ef ei hun ; ei glustiau ni chlywant ocheneidiau neb ond ei bobl ei hun ; ei draed ni cherddant at neb, ond at rai o'r un gyffelyb argraph ag yntau ; ei freichiau ni chofleidiant neb o'r tu allan i'w gylch ef ei hun ; a braidd y siarada y dyn a lywodraethir gan yr yspryd hwn â neb, oni seìniant Shibboleth neu Sibboleth yn yr un gyffelyb fodd ag yntau. Mae enaid y dyn pleid- iol yn sicr hefyd yng nghadwynau caethiwed: ni fynn ddeail nac am- gyffred ond matterion plaid; ni chofia am unrhyw bethau, oni fydd- ant yn îlesoli plaid; ac ni theimla mwy na'r callestr, ond yn unig dros y rhai hynny ag y mae cylch plaid wedi cael ei dynnu am danynt. Y mae dyn plaid wedi tynnu ei hun allan o gadwyn y greadigaeth ; ac felly wedi torri ei berthynas â theulu Adda yn gyffredinol, gan uno ei hun â llwyth pleidiol; ac ym mhob dim yn gweithredu megis pe na byddai gan neb ond ei blaid ei hun hawl i fendithion y ddaear, na rhan ym mendithion y nefoedd, er eu bod yn cael eu cynnyg yn rhad i holl gen- hedloedd y ddaear. Un o orchym- mynion y gyfraith, a'r gorchymmyn mawr, ydyw caru o honom yr Ar- glwydd ein Duw â'n holl galonnau, a'n cymmydog fel ni ein hunain; a rhag i ni gael lle i osod yspryd plaid a'i droed ar Sglfaen ddiogel, aw- grymmir i ni, mai un frawdoliaeth fawr a chyffredinol ydyw holl hiliog- aeth Adda, ac mai ein cymroydog- ion ydynt y rhai hynny a edrychant arnom yn ein cyfyngderau, a wran- dawant ar oeheneidion dydd ein hanghenoctictid, ac a'n cynnorthwy- ant wrth odreon y mynyddoedd tywyllion, pan fyddo gwasgfeuon dyddiau tymhestlog a blinion wedi ein goddiweddyd. Daeth y cyf- reithiwr at Fab Duw fel dyn plaid, a hynny i'r diben o gael esponiad pleidiol i'r gair 'cymmydog/ ag a fyddai yn taro i'w egwyddorion pleidiol eì hun ; ae er nad oes dim