Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 142. EBRILL, 1847. Cyf. XII. FFYRDD RHAGLUNIAETH. Pan ar fy ymdaith drwy y Dy- wysogaeth, cyrhaeddais bentref by- chan, yr hwn a erys ar fan dymunol, ac mewn gwlad dra iachus, yn hir cyn i huan ymguddio goris caer y gorllewin ; a chan y teimlwn fy hun yn flinedig gan y daith, cyfeiriais fy ngherddediad i annedd, er diwallu anghenion natur, ac er gorphwyso oddi mewn ei furiau am y noson ddyfodol. Wedi cael fy niwallu o'r cyfreidiau y galwaswn am danynt, teimlwn fy natur yn adfywio, a thu- eddwyd fi i esgyn i ael y bryn o'r tu gogleddol i'r pentref, er cym- meryd golygfa a difyrru fy meddwl yn yr arluniau a'r gwrthddrychau a gynnygiai llannerchau y wlad i fy ngolygon. Pan yn esgyn i fynu i'r bryn, annerchid fy nghlust â sisial dyfroedd y nant a ddolennai ac a yinlithrai yn araf drwy y dolau cyforiog mewn cynnyrch, ond yn guddiedig i'r llygad, am ei cysgodid gan yr helyg llathraidd a dyfent ar y ceulannau. Melus y lleisiai adar y perthi eu pryduhawnol emmyn; uchel y dyrchafai yr ehedydd i'r entyrch, gan chwiban ei dôn fry yn yr awyr deneu ; ac o'r llwyn tew- frigog ger y cornant y troeílai llais y fronfraith can fwyned, fal y tyb- iwn fod natur ei hun yn toddi mewn per-lewyg wrth bereidd-dra ei chân. Ond y gydgerdd bereiddiol hon a foddid naill ai gan dwrf y pladuriau yn torri y gwair i lawr, trydar y crymmanau yn yr yd toreithiog, swn yr amaethwr yn annog y medelwyr i ddiwydrwydd, llaís y forwynig yn galw y gwartheg i gael eu godro, neu grechwen bloeddiadau y plant yn tyrru yr ysgubau ynghyd ar y sofl. Yn fy ymyl, gwelwn y curyll coch yn chwyru-gipio yr aderyn o frig llwyn, ac yn ei wneuthur yn ysglyfaeth er ei holl gwynion do- lefus; ar ystlys y bryn draw, can- fyddwn y barcud yn lledu ei esgyll, ac megis yn llygadrythu am ochr perth er ymborthi ar gyw iar a led- rattasai; ac yn ymyl clawdd y waun gyferbynio!, canfyddwn yr ysgyfar- nog hirgìustiog yn torri brigau y gwyrddlysiau o'i chylch, ac yn ym- lechu o'r golwg ar drwst deilen ysgwydedig. Wedi cyrhaedd o honof goppa y bryn, eanfyddwn yr olygfa hyfryttaf a welid erioed oddi amgylch ogylch—adeiladau heirdd yn dyrchu eu pennau, gerddi gor- lawn mewn gwenau, perllannau gor- lwythog o'r aeron teccaf, y maesydd yn donnog gan yd, a'r dolau a^r dyífrynnoedd yn frithion gan y da- oedd. Wrth edrych ar yr amryw- iaethau a ymgynuygient i fy sylw, weithiau yma a phryd arall acw, canfyddwn hynafgwr yn mesur ei gamrau tuag attaf yn araf, ac yn ei