Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 144. MEHEFIN, 1847. Cyf. XII. GWEINIDOGAETH EFENGYL YN ANNIBYNOL AR WEINI- DOGAETH RHAGLUNIAETH. Eglur ddengys yr hyn sydd wedi bod dan ein sylw o'r blaen, fod damcanu (speculate) gyda golwg ar ddigwyddiadau y byd, yn hyfdra mwyaf diawdurdod ; fod galw y naill yn gerydd, a'r llall yn farn, yn rbyfyg mwyaf beiddgar, ac yn ar- wain i'r caulyniadau mwyaf twyll- odrus. Y mae yn ddigon amlwg, i'r neb a ystyrio natur gweinyddiad Efengyl a Rhagluniaetb, nas gallant alteb dybenion eu gîlydd—nas gall dynion, fel deiliaid y naill, dderbyn un lleshad oddiwrth geryddon a chospau y llall, tra yr aberthir pob urddas ac anrhydedd yn yr ymgais— nad yw cosp naturiol am drosedd moesol ond enw arall ar greulondeb ac ymddial, drychfeddwl wedi ei gyssylltu yn unig â gormesdeyrn yn sychedu am waed. Ym mhellach, am bob anfantais a ddioddefir, yn yr hyn yr ydys dan awdurdod Rhe- olaeth, yr ydym, ond odid, yn alluog ì'w holrbain at y fan y troseddwyd yn erbyn ei deddfau,un ai yn union- gyrchol neu yn anuniongyrchol, gen- nym ni eîn hunain,neuraio'n hynaf- aid; a'r amcan sydd gan y gosp yw attal y trosedd i fyned rhagddo, a dysgu gocheliad i'r holl gyfandeb, yn gystal ag i'r dioddefydd ei hun, fel na chyfyd rhagor o anfanteision. Yn awr, gofynwn, Pa ddyben yn amgen a ellir ei atteb? Pa addysg, i orphwys ar ein cymmeriad fel deil- iaid barn a thragywyddoldeb, a ellir dynnu, tra yr ydyra yn ymwybodol mai oddiwrth ryw ball naturiol y maent yn deilliaw? Yr ydym yn sicr ddieithriad o edrych ar y tros- edd ag y mae yr anfanteision a ddi- oddefir yn ganlyniad o'i herwydd. Gwadu hyn a fyddai gwadu nad amcan cosp yw gwellhau, ac addef mai ei hamcan yw gwellhau ar yr un pryd ; ac os troseddu deddfau rhag- luniaeth a rheolau natur a wnaeth- om,i dynnu hynny arnom ein hunain, gwellhad yn y cyfryw ddull sydd i ni yn ymgynnyg. Yna, y mae yr holl ddwyfoli yn diweddu mewn dim ; yn ofer ac am ddim y mae y nerth wedi ei dreulio. Nid yw y gosp yn unrhywiol â'r trosedd, yr hyn sydd yn un o elfennau hanfodol cosp ; ni ellid casglu, oddiwrth yr hyu sydd yn cael ei ddioddef, pa fai sydd wedi ei gyflawnu. Yna, nid yw cosp yn gosp mwy, na cherydd yn gerydd mwy; deifydd am eu dyben ar unwaith, a thry y cyfan alian yn nwyd ddall a disynwyr. Ond er ymryddhau oddiwrth yr anhawsdra hwn, caniattawn fod yn bossibl i ddyn ddioddef dan anfauteision na- turiol, heb wybod am un trosedd a wnaeth er tynnu hynny arna ei hun ; ond beth wed'yn ? Y mae y gofyn- iad yn oblygedig yn yr un anhaws-