Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 151. IONAWR, 1848. Cyf. XIII. CNAWDOLIAETH CRIST. " Ac yn ddiddadl, mawr yw dir- gelwch duwioldeb; Duw a ym- ddangosodd yn y cnawd." Pan edrychir i'r wybren fry, a gweled bydoedd aneirif yr Holl- alluog Dduw yn crogi, yn troi yn eu gorsafion, ac yn adlewyrchu go- leuni; a gweled cyfundraeth seren- nog yng nghadwyn cyfundraeth ser- ennog, mewn gafael dragywyddol â'u gilydd; y mae yn ddigon i lyngcu i fynu, ac i foddi pob me- ddwl meidrol, os na wna ddirwyn ei hun i fynu ar lann y môr mawr, cyn ymollwng yn ei wallgofrwydd i'r dyfnder, a suddo yn dragyfyth allan o'r golwg yn y gwaelodion. Pan edrychir ar ddeddfau natur yn holl ddirgelwch eu gweithrediadau, o fewn cylch y byd ag yr ydym ni yn byw ynddo—cyfodiad a mach- ludiad haul, cyfnewidiadau y lloer, ymddangosiad y seren foreuol, llew- yrchiadau tanbeidiol y mellt, rhu- adau dychrynllyd ÿ taranau, ynghyd â deddfau dyfroe.dd y moroedd,— pan fyddom yn sefyll uwch ben y rhyfeddodion hyn, ac yn ymgyr- haedd am gynnwys eu hegwyddor- ion o fewn cylch ein rhesymmau cyfyng, yr ydym yn gorfod dy- wedyd,—' Dyma wybodaeth ry ry- fedd i ni; uchel yw, ac ni fedrwn oddi wrthi.' Yn eithafoedd ys- tìysau y gogledd, ym mhellderau draw y deheu, yng nghaerau aur y dwyrain, ac yng nghymmylau ty- wyllion y gorllewin, ni ellir canfod ond gwrthddrychau o syndod ac o ryfeddod ym mhob man ac ym mhob Ue i deulu dyn, tra y parhao troell naturiaeth i droi, ac i ddwyn oddi amgylch eu dibenion presen- nol. Ond er mor oruchel, gogon- eddus, a rhyfeddol ydyw gorchwyl- ion y Duw tragywyddol yng nghre- adigaeth natur; cyfundraeth ser- ennog yng nghadwyn cyfundraeth serennog; wybrennau yng ngafael wybrennau ; a phob gwrthddrychau, gan y dyfnderau drychfeddyliawl a berthynant iddynt, yn cau pob am- rantau rhag tremio arnynt; y maent oll—y rhyfeddodau hyn oll—"ie, pob peth ag y mae ein llygaid wedi tremio arnynt, a phob peth ag y mae ein clustiau erioed wedi clywed son am danynt, yn llawn rhyfedd- odau, ac yn achosion o'r syndod mwyaf i ni. Ond pa beth, mewn rhyfpddod a syndod, ydyw y gwrth- ddrychau a welir o fewn cylch am- ser, a than reolau deddfau anian, at wrthddrychau ysprydol byd tragy- wyddol, na all creaduriaid mewn cnawd eu synied na'u deall, am mai yn ysprydol y bernir hwynt oll ? Pan fyddai yr Hollalluog Dduw a'i fryd ar weithio yn nerthol a rhy-