Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL Rhif. 157. GORPHENHAF, 1848. Cyf. XIII. GWASANAETH DWYFOL. Wrth Wasanaeth Dwyfol, yn yr ysgrif hon, y deallir y gwasanaeth cyhoeddus hwnnw a roddir i'r Ar- glwydd Goruchaf, pan ymgyrmullo y gynnulleidfa ynghyd ar yr am- serau pennodedig i'w addoli ef drwy weddian, ymbiliau, deisyfiadau, mawl, a darlleniad yr Ysgr-ythyrau Sanctaidd. Y mae llawer iawn o ddadleu wedi bod, ac yn parhau i fod hyd yn hyn, ynghylch y pwnge hwn, ac y mae y dadleuwyr yn fyn- ych iawn yn myned i eithafion ; ac wedi yr elont i eithafion, yno yr arosant, ac ni wrandawant beth fydd gan y naill i'w ddywedyd, neu i'w atteb i'r llall. Pwy bynnag o honom sydd wedi cyrhaeddyd yr eithafnod hwn, y mae yn debyg iawn o aros yn y llyíFethair a roes arno ei hun, neu a roes arall arno, a hynny am ei oês ; oblegid y mae y dyn ag sydd wedi tyngu ffyddlondeb i'w gred, heb ymofyn nac ymchwilio dim i gredoau eraill,méwn cadwynau adamantaidd, na all neb eu dryllio. Mae yr Eglwyswr ag sydd wedi ym- gynnefino â ffurf o Wasanaeth Dwyfpl, ac yn credu na ddylid an- fon unrhyw eirchion cyhoeddus at orsedd y nef ond yn ol y rheol hynny, yn ystyried holl rannau y gwasanaeth ymneillduaidd, nid yn unig yn afreolaidd, ond yn anghym- nieradwy gyda Duw; ac y mae yr 2C Ymneillduwr ag a fyddo wedi cyr- haeddyd eithafnod yr ochr arall, pan ddigwyddo iddo fod yn bre- sennol lle yr arferir ffurf o wasan- aeth, yn ei ystyried yn gwbl oll yn Babaidd, yn Phariseaidd, ac yn anghymmeradwy gyda Duw. An- hawdd iawn ydyw cael dynion at yr Ysgrythyrau Sanctaidd ; ac wedi eu cael at yr Ysgrytbyrau Sanct- aidd, anhawdd iawn cael ganddynt wrandaw pa beth a ddywedir gan yr Ysgrythyrau, chwaithach pa beth ydyw meddwl yr Ysgrythyrau yn y cyf'answm o honynt, gyda golwg ar y pwngc hwn neu arall. Heb fyned at yr eithaf-redwyr, yn Eglwyswyr neu yn Ymneillduwyr, a oes dim modd i ni, ag sydd yn proffesu ein bod yn ddiragfarn, allael gweled rhyw beth yn yr Ysgrythyrau, a de'all rhyw beth oddiwrth yr Ys- grythyrau, a ddichyn ein tueddu i farnu nad ydyw ffurf o wasanaeth dwyfol i gynnulleidfa mor anys- grythyrol ag y mynn rhai ei bod ; a chwennychai ysgrifennydd yr er- thygl hwn i ddarllcnwyr yr Haül ddeall ei fod wedi ei gyfansoddi, os nid mor ddiragfarn ag y gallai dyn mewn cnawd wneuthur hynny, etto mor ddiragfarn ag y gaîlai efe wneuthur hynny. Ynghylch addoliad a gwasanaeth dwyfol cyhoeddus y patriarchiaid,