Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. Rhif. 159. MEDI, 1848. Cyf. XIII. OLION DOETHINEB DDERWYDDOL. [A ganlyn sydd Gyfieithad o Ddarlith a draddodwyd gan Dda- fydd Owen, (Brutus,) yn y Sefydl- iad Llenyddol yn Llanyraddyfri, y Gwanwyn diweddaf.J Y mae pob cenhedloedd ag ydynt wedi ymgasglu a chydgorpholi yn rheolaidd, yn ystyried eu hynaf- iaethau fel cynnifer o weddill- ion cyssegredig, a adawyd iddynt gan eu hynafiaid yn oesoedd pellaf eu hanfodaeth. Yr ydym yn cael yr Israeliad yn ennyn yn holl falch- der ei dadau, pan yn myfyrio ar y colofnau anfarwol a adeiladwyd gan ei genedl yn hen ddyddiau ei mawr- edd a'i gogoniant. Yr un peth a ellir ei ddywedyd am y Groegwr, y Rbufeinwr, yr Arabiad, yr Hin- dwad, a'r Chiniad ; ac oni all y Celtiad hefyd honni yr un hawl i'r duedd gyffredinol hon, pan ag y niae yn ffaith a gydnabyddir yn gyffredinol, fod ymchwiliadau, hyd yn nod yn nyrysfeydd tywyllion tra- ddodiadau a hen chwedlan cenhedl- ©edd, yn fynych yn arwain at y darganí'yddiadau pwysiccaf? Pan ystyrir bod llwyth yBrython wedi bod mor homiaid ym mhlith y llwy- thau boreuol; pan ystyrir mud- iadau yr hen genedl hon, ei gwrol- deb, ei chymmeriad anymddibynol, ei buddugoliaethau, ei maeddiadau, 2M a'r erledigaethau a fuont arni; ac er hyn oU, bod gweddill o honi yn aros hyd heddyw fel cenedl, a'r holl beirianwaith, mewn yspryd, iaith, arferion, defodau, a thraddod- iadau, mewn gweithrediad cyflawn ; nid yw yn rhyfedd bod y Brython yn ymddyrchafu pan yn ymhwylio ym mlaen ym maes hynafiaeth, oblegid y rnae mor bwysig yno ag y dichon i unrhyw ddyn fod. Y pwngc ag sydd yn tynnu fwyaf o sylw braidd, mewn hynafiaeth Geltaidd, ydyw y gyssegr-lywodraeth, neu yr offeir- iaeth, gyda ei duwinyddiaeth ddi- addurn, a'i hathrawiaethau ymar- ferol, dylanwad pa rai yn ddiau a fu y moddion pennaf yn ffurfiad y cymmeriad Celtaidd. Mewn per- thynas i grefydd y Derwyddon, os nad ydoedd yn hollol batriarchaidd, yr ydoedd yn oruwch-adeiladaeth ar sail y grefydd batriarchaidd ei hun; a phan feddyliom am gref- yddau yr Aipthiaid, y Caldeaid, y Groegiaid, y Rhufeiniaid, a'rHin- dwaid, ynghyd â'u hathrawiaethau, eu defodau, eu gwrthunwch, a'u bod mor wrthwynebol î synwyr cyff- redin, ag ydynt i deimladau goreu ein natur, gallwn ym mron gy- hoeddi Derwyddiaeth yn grefydd bur ac yn anllygredig. Ni ellir pennodi yr amser pan ymsefydlodd llwyth o Geltiaid gyu-