Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 160. HYDREF, 1848. Cyf. XIII. OLION DOETHINEB DDERWYDDOL.—(0 tu dal. 276.J Mae ein Trioedd ni yn sefyll eu hunain, ac ar eu seiliau eu hunaìn, yn holl fawredd eu cyfoeth, yng nghanol lleenyddiaeth hen a diw- eddar. Maent yn anghydmarol yng nghrynodeb eu cyfansoddiad, yn harddwch yr ymadroddion, yn syml- rwydd y dullwedd, ac ac yn eu cyf- addasrwydd i fynnu gafael yn y sylw ; ac y mae yn amlwg arnynt argraph annileadwy hynafiaeth. Y raae gennym y tystiolaethau sicraf a mwyaf diymwad, bod yr hen Dderwyddon yn trosglwyddo doeth- ineb a gwybodaeth yn ffurf Trioedd ; a gellir, gyda golwg ar hyn, gry- hwyll yn neillduol am Pomponius Mela, a Diogenes Laertius. Yn y Triad a ddifynnir gan Mela, y mae y gyfryw ddoethineb yn cael ei datgan, ag a geir yng ngweithiau neb o ddoethion hynafol y ddaear:— ' Rhagori mewn rhyfel, Bod yr eneidiau yn anfarwol, A bod buchedd arall iddynt.' Y Triad Derwyddol a ddifynnir gan Diogenes Laertius sydd fel y canlyn:— ' Addoli y duwiau, Peidio gwneuthur drwg, Ac arferyd gwrolder.' Gadawer i'r Derwyddon lefaru drostynt eu hunain; oblegid yn 2Q fynych iawn y maent yn cael cam truenus gan anwybodusion. Y mae eu barn am natur y Duwdod yn gynnwysfawr iawn, yn y wers neill- duol ganlynol:— * Nid Dim ond Duw, ' Nid Duw ond Dim ;' hynny ydyw, mae yn debygol,—■' Ni all Duw fod yn ddefnydd (matter;) a'r hyn nid yw ddefnydd, a raid fod yn Dduw. Yn yr hen Drioedd, cydnabyddir un Duw,ac na all mwy nag un Duw haufodi ; a'i fod yn cynnwys y Bywyd mwyaf, yr Wy- bodaeth fwyaf, a'r Gallu mwyaf. Dyweda y Trioedd fod yn anallu- adwy i Dduw beidio bod yr hyn a ddylai Daioni perffaith fod, yr hyn a ewÿllysiài Daioni perffaith fod, a'r hyn ag y mae Daioni perffaith yn alluog i'w gyflawnu. Gyda golwg ar yr hyn a wnaeth Duw, ac a wna Duw, dyweda y Trioedd fod tri pheth yn dangos hynny; Gallu an- feidrol, Doethineb anfeidrol, a Chariad anfeidrol. Etto, crybwyll- ant am dri pheth ag na all Duw beidio a'u cyflawnu; sef yr hyn sydd fwyaf buddiol, yr hyn sydd fwyaf angenrheidiol, a'r hyn sydd harddaf o bob peth; a dyweda y Trioedd am dair prif bridoledd Duw, mai llawnder anfeidrol o Fywyd, o Wybodaeth, ac o Allu