Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAÜL. Rhif. 162. RHAGFYR, 1848. Cyf. XIII. Y BARADWYS DDAEAROL. Er ffurfio o baganiaid amryw dybiadau mewn perthynas i gread- igaeth y byd hwn; er dychymmygu o philosophyddion oferedd am gy- chwyniad dechreuol yr hnll fodau gweledig ; ac er bod y rhifedi amlaf o breswylwyr y byd yn awr yn gwbl anwybodus o'u dechreuad gwreiddiol; etto, trwy lewyrch y gwirionedd dwyfol, yng ngoleuni yr Ysgrythyrau Sanctaidd, ac o fewn terfynau dysgeidiaeth yr Yspryd Glân, yr ydym ni yn alluog i droi ein golygon yn ol, ac edrych trwy yr oesau tywyllaf, a dywedyd, * Ýn y cychwyniad y creodd Duw y nef- oedd a'r ddaear.' Ac i'r diben o drosglwyddo i'n meddyliau syn- iadau derchafedig am y Duw byw ; er argraphu ar ein calonuau dybiau teilwng o allu y Brenhin anfarwol; ac er mwyn ein tueddu i ystyried ein rhwyinedigaethau iddo, dynodir ef fel Crewr, ac nid fel un wedi ych- wanegu at yr eiddo arall. Y mae llawer un yn ei gynnygiad cyntaf wedi gwneuthur gorchestion, dwyn oddi amgylch orchwylion raawrion, a gwneuthur grymmusderau nes synnu ei gyfoedion; ond ei holl nerth a dreuliwyd mewn adeilad- aeth un golofn, ei feddwl a ddihys- byddwyd yng nghyflawniad yn cyn- llun, a galluoedd ei enaid a sychwyd wrth gyfansoddi un traethawd : oihì 2Z am y Gallu Mawr Tragywyddol, ymddengys megis pe byddai yn ychwanegu mewn nerth yn ei dreigl- iad creadigol, fel ag y mae gwaith y naill ddydd yn rhagori ar y llall, megis colofn ar golofn, hyd oni chollir y rhai uchaf yn nherfyn- gylch tragywyddoldeb. Dyn yn ddiau oedd prif amcan y Jehofa yng nghychwyniad ei yrfa allan o'i ystafelloedd tragywyddol; ac felly yr ydym yn cael fod pob parotto- adau wedi eu gwneuthur, pob gwleddoedd wedi eu harlwyo, a'r llys brenhinol wedi ei gwbl orphen, erddo, cyn ei ddwyn i hanfodiad : y ddaear a ddygwyd i drefn a hardd- wch o'r cymmysgedd mawr, y wawr a orchymmynwyd i lewyrchu o'r nos ddudew, a gemmau disglaer fel canwyllau goleu trwy yr holí ehang- deraù, y rhai ni thawant ddydd na nos i beroriaethn mewn un gydsain hyfrydol glodydd parhaus y Duw a'u gwnaeth. Amlwg yw, yn ol tystiolaeth ddiwyrni yr hanesydd- iaeth ddwyfol, fod yr holl fodau yn eu hamrafael bellder a'u sefyllfa- oedd, wedi eu cyfleu o fewn ter- fynau eu gwahanol gylchoedd er gwasanaethu y ddaear hon ; a phan y dygir ein byd ni i derfyn ei oes, ac y twng yr angel mawr,' Na bydd amser mwyach/ ac yr ymddengys Mab Duw yn yr wybren ehang, yr