Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 166. EBRILL, 1849. Cyf. XIV. TYMHER GREFYDDOL YR OES. Nid oes dim ag sydd yn gofyn am wyliadwriaeth ddyfalach na chrefydd; oblegid y fath ydyw cnawd, anianoldeb, a llygredigaeth dynion, fel ag y mae crefydd yn rhydu yn uniongyrchol, oni fydd yn cael ei gloywi yn barhaus o ddydd i ddydd. Y mae crefydd, yn ei han- fod a'i hanianawd ei hun, yn bur, yn lân, ac yn loyw, pan ag y mae yn ei gorsaf briodol ei hun ; ond yn nhrafodiaeth dynion â hi, y mae yn rhydu, ac megis yn casglu parddu, ac yn myned yn anhawdd i'w had- nabod, hyd yn nod yng nghanol ystwr mwyaf y bobl am dani. Y mae pob sefydliadau, dwyfol a dynol, yn ymlygru mewn amser, a hynny oblegid y llygredigaeth sydd ynglŷn â theulu Adda; o ganlyn- ìad, y mae diwygiadau yn angen- rheidiol i gymmeryd lle o bryd i bryd arnynt; ond fel ag y mae gwaethaf y modd, y mae y diwyg- iadau a wneir, ac a elwir felly, yn fynych yn ychwanegu ät y llygred- igaethau, nes o'r diwedd y byddo y digwyddiadau eu hunain yn llwyr o'r golwg yn y pentyrrau sothach a gyssylltir â hwynt. Gall fod cyn- niwein-'ydd mawrion mewn gwlad i'r addoliadau cyhoeddus; gall fod llawer iawn o bregethu, o wèddio, ac o ddarllen ; gall yr ordinhadau fod yn cael eu gweinyddu yn rheel- aidd; a gall fod gwlad o ddynion yn siarad yn grefyddol, ac yn me- ddwl eu bod yn grefyddol hefyd ; ac ar yr un pryd bod crefydd y wlad honno yn dra llygredig, ac ym mron a bod o'r golwg. Ystyrir Cymru gennym ni, a chan ddieithr- iaid hefyd, yn wlad grefyddol iawn, a'r trigolion braidd yn gyffredinol dan erTeithiau crefydd; yn fwy nag un wlad drwy gred; ond erbyn chwilio imewn i bethau, ac ystyried pethau yn eu cyflwr a'u hansawdd wir eu hunain, ef allai y ceir bod ein cref- ydd ni y Cymry dan lawer iawn o Iwch, yn dra llygredig, a'i bywyd yn llonydd; ac felly y ffrwythau hynny, ag y sonir am danynt yn yr Ysgrythyrau Sanctaidd, ddim mor gynnyrchiol yn bresennol yn ein plith ag y gweiwyd hwynt flyuyddau yn ol, Nid amcan yr ysgrifennydd yn yr erthygl presennol ydyw bwrw ar, nac yn y mesur lleíaf warth- ruddo nac Eglwyswyr nac Ymneill- duwyr, nac uurhyw enwad cref- yddol yn ein plith ; ond edrych ar, a chymmeryd golwg ddiragfarn ar dymher grefyddol yr oes; a phwy a ŵyr na wneir y cyfryw argraph ar feddyliau dynion o ddylanwad, fel ag i'w dwyn i gymmeryd y mat- ter dan eu hystyriaethau, ac yn y pen draw i ddwyn diwygiad oddi amgylch ?