Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 169. GORPHENHAF, 1849. Cyf. XIV. DYMCHWELIAD CAERAU JERICHO. Dywedir mai yr Arglwydd sydd ryfelwr, ac mai yr Arglwydd yw ei enw; a phan ddel efe allan mewn rhyfelgyrch yn erbyn ei elynion, nid dichonadwy i neb ei wrthsefyll: oblegid y mae efe yn gadarn o nerth, a holl elfennau natur yn eirf iddo, fel y gall wasgaru dinystr hyd i bellafoedd y greadigaeth ar un- waith. Ychydig iawn ydyw y llew- yrch sydd wedi tywynnu arnom ni mewn perthynas i nerthoedd a rhy- feddodau yr Hollalluog ym modau yr eithafion, oblegid eu pellderau oddi wrthym ; ond y mae anfeidrol- deb ei ddoethineb, ac anchwiliadwy oludoedd ei ryfeddodau, yn cyd- brofi ei fod ef yn fawr, ac i'w ar- swydo yn ei ryfeddodion trwy holl ymerodraeth fawr tragywyddoldeb. Ymylau ei wyrthiau mawrion ac an- eirif ef ydym ni yn weled, ac am ryw dywyniadau bychain o ardder- ogrwydd yr ydym ni wedi clywed; oblegid y mae llesgedd ein natur, a byrdra ein cyrhaeddiadau o'r fath, fel na allwn synied pethau mawrion ein Harglwydd ar lennyrch priodol, lle y mae efe yn egluro rhyfedd- odau uwchlaw ein hamgyffredion ni, ym mhlith bodau o wybodaethau cwbl ysprydol, di-amdoedig gan lenni o gnawd. Y mae cyfleadau bodau natur yn eu gorsafion pri- odol, a'u llywodraethiad drwy yr 2C oesau gan ddeddfau diwyrni, yn llonaid ein llestri ni; y mae yr am- lygiadau o nerth braich y Duw ben- digedig mewn creadigaeth, a chyn- naliaeth y pethau a welir, yn boddi ein syniadau pennaf ni; ac y mae gwaith Awdwr natur yn dirymmu deddfau natur—yn gwneuthur i el- fennau uatur weithredu yn groes i'w deddfau, ac etto yn cadw peirian- waith natur heb ymddyrysu, yn llawn ddigon i ddynion mewn cnawd, i'w synwyrau weithredu arnynt tra yn y fuchedd hon. Ond beth am y taleithiau yn y greadigaeth ys- prydol, a gyfanneddir gan fodau ysprydol, llestri y rhai ydynt ehang, ac amgyffredion y rhai ydynt ys- prydol, i weled, i edrych, ac i syn- ied nerthoedd, cadernid, a rhyfedd- odau y Duw mawr, o fil miliwn uwch graddau na dim ag a amlygwyd i ni o ryfeddodau ei weithredoedd ef? Y mae dydd i ddydd yn traethu ymadrodd i ni, a nos i nos yn my- negu gwybodaeth i ni; y mae llyfr natur, yn holl amrywiolaethau ei ddarluniadau, yn fwy nag a allwn ni synied; ac y mae y datguddied- igaethau a roes ein Duw o hono ei hun i ni, yn ymehangu i anfeidrol- deb ger gŵydd ein syniadau ; ond. y mae ei ryfeddodau mwyaf, dat- guddiedig i ni, yn myned dan y llenni yn ymyl ei ryfeddodau yn y