Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. Rhif. 170. AWST, 1849. Cyf. XIV. YR AFON* Yn wyneb dyryswch a tbywyll- wcb mawr yr athronyddion cen- hedlig gyda golwg ar ddyfndiad sylweddau i fodoliaeth, yng ngoleu gwawr y datguddiad dwyfol, yr ydym ni yn gaílu olrhaiu pethau i'w ffynnonellau cyntefig, a phriodoli effeithiau i'w gwir achosion; fel y gall y mwyaf anwybodus am y cel- fyddydau agwybodau eraill, â'i Fibl yn ei law, ddywedyd, * Yn y dech- reuad y creodd Duw y nefoedd a'r ddaear.' Y mae y golygfeydd a welir gennym ni yn ddigonol i'n Uyngcu i dragywyddol syndod ! Y mae y ddaear yn ei holl rannau,— yn uchder ei mynyddoedd, ym mhrydferthwch ei gwastattir, yn ehangder ei moroedd, yn nghyflawn- derei hafonydd, ynrhywiogaethauei chreaduriaid, yn amrywiaethau ei chynnyrch, ac yn ei hysgogiadau a'i throion,—yn darostwng ein gwy- bodau, hyd oni ystyriorn mai y Duw a'i creodd ydyw ei Llywydd a'i Chynnalydd. Pan ddyrchafom ein llygaid tuag i fynu, a gweled maes mawr ac ehang yr awyr deneu, lly- gyrn Ior yn goleuo ac yn dawnsio yn yr eithafion fry, bodau disglaer dirif yn chwareu yn yr uchelion, y * Oblegid digwyddiad nad allesid ei ochelyd, methwyd rhoddi Parhad o' Ddym- chweliad Caerau Jericho' yn y Rhifyn hwn. 2H planedau yu rhedeg eu gyrfaoedd, y cometau yn ysgogi gyda buandra anghredadwy drwy y broydd an- hygyrch, a chaerau Caergwdion bell yn ymestyn o un eithafoedd i eithafoedd arall, yr ydym ar un- waith yn suddo i'r gwaelodion, oni bai ein bod yn deall drwy y Gair sancteiddiaf bod ein Duw ni yn galw y ser wrth eu henwau, yn dwyn allan Massaroth yn eu ham- ser, yn tywys Arcturus a'i feibion, yn rhwymo hyfrydwch Pleiades,yn dattod rhwymau Orion, ac yn rheol holl feibion yr wybrennau yn gwbl wrth ei ewyllys ei hun! Y mae yr iaith a ddefnyddir gan Moses yn y bennod gyntaf o Lyfr Genesis, yu hollol deilwng o weithrediad yr ew- yllys dragywyddol, ac o'r effeithiau a achoswyd pan ddaeth Aleim allan o'i ystafell dragywyddol, er mwyn poblogi un o lennyrch gweigion tra- gywyddoldeb. Wedi dwyn cym- mysgedd cyntefig y ddaear i drefn, wedi ei phrydferthu a'i haddurno, wedi ei gwisgo â gwyrddni, ac wedi ei phoblogi â chreaduriaid, neillduodd fangre i'r dyn i'w phre- swylio, yr hon a ddarlunir mewn iaith fywiog neillduol:—* Hefyd yr Arglwydd Dduw a blannodd ardd yn Eden o du'r dwyrain, ac a osod- odd yno y dyn a luniasai efe. A gwnaeth yr Arglwydd Dduw i bob