Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YK HAUL. CYFRES NEWYDD. "YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." «'A GAIR DUW YN UCHAF." Rhip. 64. EBRILL, 1855. Cyf. VI. ABIAH BYCHAN. "0 herwydd cael ynddo ef beth daioni tuag at Arglwydd Dduw Israel, yn nhŷ Jeroboam." {Ut enw Jeroboam, fab Nebat, er t&D-* ys oesau, yn hynod yng nghro- nicl enwau teyrniaíd annuwioî yr oesau, ac er mwyn dangos drygedd ac annuw- ioldeb y pen coronog hwn, crybwylíìr yn fynych am dano yn yr hanes sanct- aidd f'el Jeroboam fab Nebat, yr hwn a Wnaeth i Israel bechu. Yr oedd efe yn arweinydd ar y deg llwyth, yn eu gwrthryfel yn erbyn, a'u hymneilldu- ad oddi wrfh dŷ Dafydd. Pan gydna- byddwyd Jeroboam yn frenhin ar Is- rael, y weithred gyntaf a wnaeth gyda golwg ar grefydd y wlad oedd ei newid, a hynny er mwyn gwasanaethu ei ddibenion politicaidd ei hun ; canys *'y brenhin a ymgynghorodd, ac a Wnaeth ddau lo aur, ac a ddywedodd wrthynt hwy, Gormod yw i chwi fyned 1 fynu i Jerusalem : wele dy dduwiau di, O Israel, y rhai a'th ddug di i fynu o wlad yr Aipht." Nid yn unig gwrthryfeiodd J eroboam yn erbyn t.ŷ Dafydd, ond gwrthryfelodd yn erbyn gorsedd fawr y nefoedd ; gwnaeth dŷ üchelfeydd; gwnaeth oífeiriaid o'r rhai gwaelaf o'r bobl, y rhai nid oedd o feibion Lefi; newidiodd y gwyliau; ofFrymmodd ar yr allor a wnaethai efe y^ Bethel; ac er ei rybuddio gan weis- Jon y Duw byw, ac er gweled o hono ^erthoedd rhyfeddodau y nef wrth yr allor ym Methel, ni ddychwelodd Je- roboam o'i ftbrdd ddrygionus ; ond efe f wnaeth drachefn o wehilion ofteiriaid ,,r uchelfeydd : y neb a fynnai, efe a'i cyssegrai, ac efe a gai fod yn offeiriad i'r uchelfeydd. A'r peth hyn a aeth yn bechod i dŷ Jeroboam, i'w ddiwreiddio hefyd, ac i'w ddileu oddi ar wyneb y ddaear. Yr oedd llygad y nefoedd ar Jeroboam, ac ar ei dŷ ; a phan aeth gwraig Jeroboam at y prophwyd Ahiah i Siloh, er mwyn cael gwybodaeth yng nghylch afiechyd Abiah bychan, cy- hoeddwyd barn ddychrynllyd gan y prophwyd ar Jeroboam, ac ar ei dy, yn yr ymadroddion canlynol;—"Am hyn- ny, wele fi yn dwyn drwg ar dy Jero- boam ; a thorraf ÿmaith oddiwrth Jero- boam yr hwn a biso ar bared, y gwar- chaeedig a'r gweddilledig yn Israel; a mi a fwriaf allan weddillion ty Jerobo- am, fel y bwrir allan dom, nes ei ddar- fod. Y cwn a fwytty yr hwn fyddo faiw o eiddo Jeroboam yn y ddinas ; ac adar y nefoedd a fwytty yr hwn fyddo farw yn y maes; canys yr Arglwydd a'i dywedodd." Yr oedd bod corph marw yn cael ei adael heb gladdedigaeth, yn cael ei hystyried yn farnedigaeth ac yn gosp dymhorol fawr a throm gan genedl Israel; a'r farned- igaeth a'r gosp hon ar dy J eroboam a gyhoeddwyd mewn ymadroddion am- lwg gan y prophwyd Ahiah yn nghiy w ei wraig. Ond y mae yn deüwng o sylw, pan fyddo barnedigaethau y nef- oedd yn cael eu bygwth, ac yn cael eu ty wallt ar blant dynion, yn Jioll ang- herddoldeb ei ddigder, y mae efe yn adnabod ei blant yn nydd y dialeddau, ac yn eu harbed ynghanol y dinystr a'r