Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAUL. CYFRES NEWYDD. 'YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUW YN UCHAF." Rhif. 65. Al, SB55. Cyf. VI. PFURP GWASANAETH CREFYDDOL Y DEML A'R SYNAGOG. flît ag y byddo dynion gwedi cael eu dwyn fynu mewn unrhyw an- nhrefn, ac wedi dysgu yr annhrefn honno, maent yn credu mai y peth go- reu yn ÿ byd ydyw yr annhrefn honno. Pel hyn y mae gyd a golwg ar bob an- nhrefn, ac yn neillduol gyd a golwg ar annhrefn grefyddol. Mae miloedd o ddynion yn awr yng Nghymru, yn ys- tyried trefn mewn addoliadaucrefyddol J'n ddinystr i wir greíydd ; ond pan ag y byddo gweiddi dwldod wrth bregethu, gweddio dwldod megis pe byddai y gweddiwrr ar drangcedigaeth, a'r bobl yn gweiddi, yn neidio, ac yn gwau drwy eu gilydd, y maent yn credu fod y cyfryw gyfarfodydd yn wir addol- iadau ysprydol i'r Arglwydd. Mae y cyfarwyddyd a roddir gan y gwr doeth yn deilwng' iawn o'n sylw ni, fel rhai ag sydd yn ymarfer a'r gwaithbendith- fawr hwnnw o addoli yr Arglwydd yn gyhoeddus yn ei dŷ, sef,—" Gwyüa dy droed pan fyddech yn myned i dŷ Dduw, a bydd barottach i wrando nag i roi aberth íFyliaid." Dyleni ni gofio °ob amser pan yn myned i'r addoliadau cyhoeddus, mai sancteiddrwydd sydd yn gweddu i dŷ yr Arglwydd, ac faiai Awdwr trefn, ac nid annhrefn ydyw yr Yspryd Glan. Nid oes gennym nem- awr, neu ynhyttrach ddim i'w ddywed- yd am drefn, neu ffuvf grefyddol gwas- anaeth crefyddol yr Eglwys Batriarch- *}'dd, cyn ac wedi y diluw. Gwyddom fod y penteulu ynoffeiriad yn ei deulu; gwyddom ei fod ynaberthu; agwyddom ei fod yn dysgu egwyddorion crefydd l'n ei deulu ; canys y mae Duw yn dy- ^edyd am Abraham,—" Canys mi a'i nadwaeu ef, y gorchymyn efe i'w blant, ac i'w dylwyth ar ei ol, gadw o honynt ffordd yr Arglwydd, gan wneuthur cyf- iawnder a barn ; fel y dygo yr Arlwydd ar Abraham yr hyn a lefarodd efe am dano." Gyd a golwg ar yr Eglwys Iuddewig a sefydlodd Duw drwy Foses, sef EglwysSefydledig aGwladwriaeth- ol Israel; yr ydyra yn gwybod llawer iawn am drefn a ffurf ei gwasanaeth, canys y maent ar gof a chadw yn yr Ysgrythyr Lân. Yn awr, dichon mai nid anfuddiol fyddai gwneuthur rhaí crybwyllion am drefn a ffurf gwasan- aeth crefyddol cyhoeddus y Deml a'r Synagog yir nyddiau ein Hiachawdwr a'i Aposíolion. Nid oes dim yn fwy diddadl na bod gan yr Iuddewon ffurfiau pennodol o addoliad yn holl rannau y Gwasanaeth Dwyfol ; ac y mae mor ddiddadl a hynny, i'n Harglwydd Iesu Grist gyd ymffurfio a threi'niadau ac a ffurfiau yr Eglwys Iuddewig yn nyddiau ei gnawd- oliaeth ar y ddaear ; a'r un modd y gwnelai yr Apostolion hefyd. Yr oedd Gwasanaeth y Deml yn wahanol mewn llawer o bethau oddi wrth Wasanaeth y Synagog ; ond yn hyn yr oeddynt yn cyttuno ; sef bod y gweddiau cy- hoeddus bob amser yu yr un ffurf o eiriau. Mae gwasanaeth y Deinl yn cael ei darlunio yn fanol gan Dr. Light- foot; ac yn gyntaf oll, cj% offrymiad yr aberth, gelwai y llywydd arnynt i fyned i weddi, a hwy a ddechreueiit fel y canlyn ;— Ti a'n ceraist ni, O Arglwydd ein Duw, â chariad tragywyddol, ac a thos- turi mawr a helaeth y trugarheaist wrthym ni, O ein Tad, ein Brenhin, er mwyn ein tadau, y rhai a ymddiriedas-