Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YE HAUL. CYFRES NEWYDD* «YNG NGWYNEB HAUL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DUW YN UCHAP." Rhip. 67. GORPHENHAF, 1855. Cyf. VII. JERUSALEM. Erthygl II. O^tííÌlaìííügîy dinas Jerusalem ar <^*' fryniau, ac amgylchynid hi gan fynyddoedd, ac yn ei chymmydogaeth yr oedd ffynhonnau Gihon a Siloam, ac afon Cedron, ynghyd a dyfroedd Ethan, ba rai a gladwyd ar bontffordd i'r ddinas gan Bontius Pilate, y Rhag- law. Nid oedd hen ddinas Jebus, yr hon a gymmerwyd gan Ddafydd oddiwrth y Jebusiaid, yn fawr ; a hon a safai ar fynydd o'r tu deheuol i'r mynydd ar ba un yr adeiladwyd y deml gwedi hynny. Yma yr adeilad- odd Dafydd ddinas newydd, yr hon a alwodd efe yn Ddinas Dafydd', ac ar hwn hefyd yr oedd y palas brenhinol. Rhwng y mynyddoedd hyn yr oedd dyffryn, neu waelod Milo, yr hwn a lanwyd gan Ddafydd a Solomon er mwyn uno y ddwy ddinas ynghyd. Helaethwyd Jerusalem yn fawr iawn gan y Maccabeaid ar y tu gogleddol drwy gau i mewn drydydd fryn. Yr oedd tynged y ddinas hon yn ymddi- bynnu ar dynged y genedl Iuddewig, canys yr oedd yn agored i holl cyf- newidiadau amrywiol y genedl. Ama- ziah, brenhin Israel, gwedi gorchfygu Joash, brenhin Judah, a'i gymmeryd yn garcharor, a aeth i Jerusalem, a ddygodd ymaith drysorau y deml, ynghyd a thrysorau y palas brenhinol, yn y flwyddyn o oed y byd 3178, a chyn Crist 826 ; aeth Necho, brenhin yr Aipht, i Jerusalem yn y flwyddyn o oed y byd 3394, cyn Crist 610 ; gwar- chaeodd Nebuchodonosor ar Jerusalem, ac a gymmerodd y ddinas yn y flwyddyn o oed y byd 3391, cyn Crist 2 E 606, a chaethgludodd yr Iuddewon i Fabilon. Cyrnmerwyd yr unrhyw ddinas dair gwaith gwedi hyn, gan Nebuchodonosor, pryd y cymmerodd efe ei thrysorau i Fabilon. Gwedi y caethiwed, ail adeiladwyd, ac ail boblogwyd Jerusalem yn y flwyddyn o oed y byd 3468, cyn Crist 536; a'r muriau a ail adeiladwyd yn y flwyddyn o oed y byd 3550, cyn Crist 454 ; ond syrthiodd i ddwylaw Alecsander Fawr yn y flwyddyn o oed y byd 3672, cyn Crist 332 ; ac wedi marwolaeth Alec- sander,arosodd dan ly wodraeth brenhin- oedd yr Aipht, ond dioddefodd lawer dan Antiochus Epiphanes, yr hwn a'i hyspeiliodd hi a'r deml yn y flwyddyn o O. B. 3834; ac yn mhen y ddwy flynedd, Apollonius, casglydd ei drethî, a syrthiodd ar y trigolion, ba rai a lofruddiwyd ganddo gyda chreulondeb mawr, ac wedi iddo wneuthur yspail fawr, efe a losgodd y nifer amlaf o'r tai, ac a osododd derfyn ar yr aberthau yn y deml, ba rai a aaferwyd ym mhen y tair blynedd gan Judas Maccabeus, pan orclifygodd efe Nicanor, Georgius, a Lysias. Bu gwarchaead arall ar Jeru- salem gan Antiochus Sidetes yn amser Hyrcanus, ond y gwrthwynebiad cadarn a wnaed gan y tywysog dewr hwn, a'i rhwystrodd i'w chymmeryd. Ond bu y ddinas hon yn agored i ruthr n;wy nerthol gan Pompey, yr hwn a halog- odd y deml drwy ymruthro i'r cyssegr, yn y flwyddyn o O. B. 3490, C. C. 64; ac yn y pendraw, gwedi amrywioí gyfnewidiadau dan yr ymherawdwyr Rhufeinig, gwarchaewyd hi, cafodd ei