Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. "tno ngwyneb haül a llygad goleuni.m "a gair duw yn uchaf." Rhif. 145. IONAWR, 1869. Cyf. 13. DUW YN DILEU CAMWEDDAU. GAN 4>iXoXoyOJ, COLEG DEWI SANT. "Myfi, Myfi yw'r Hwn a ddilea dy gamweddau, er fy mwyn fy Hun, ac ni chofiaf dy bechodau."—Esaiah xliii. 25. Y mae genym ni dair cyfrol fawr ac arbenig, yn y rhai yr ydym yn darllen bodolaeth a chymmeriad yr Anfeidrol— creadigaeth, rhagluniaeth, a dadguddiad. Allan o'r tair cyfrol hyn, y gyfrol ysbryd- oledig yw y rhagoraf, y darlun cywiraf a Sherffeithiaf o hono. Y mae Duw i'w darllen i helaethder yn y ddwy flaenaf, ond nid yn gyflawn, nes dyfod o honom at y drydedd. Mewn creadigaeth, yr ydym yn darllen ei dragwyddol allu Ef, a'i Dduwdod; mewn rhagluniaeth, yr ydym yn darlien ei aruthrol olud Ef, a'i ofal; ond yn y Beibl, yr ydym yn darllen ei anchwiliadwy gariad Ef a'i ras. Y mae cyfrol natur yn dadgan gogoneddus bethau am dano; eiddo rhagluniaeth yn gwneyd yr un peth; ond y mae'r Beibl yn dadgan gogoneddusach pethau na'r nailí na'r llall, yn ein dysgu ei fod yn Dduw cyfiawn ac Achubydd—yn gallu "bod yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd lesu." Nid yw yn amddifad o lawer o ardderch- ogrwydd swynol yn y cyfrolau ereill; ond yn y gyfrol hon, mae yn ardderchocach, oll yn hawddgar, megys lili ym mysg y drain, ac megys pren afalau ym mysg prenau'r coed. Heb son am ranau ereill o'r Beibl yn bresennol, y mae rhyw hawddgarwch rhyfeddol ynddo yn adnod y testyn; a— " Pe gwelai'r byd Ef fel y mae, Deu pawb i'w garu yn ddilai." Y mae yma, yn yr adnod dan sylw, yn arddangos ei Hun—fel un yn dilëu cam- weddau, fel un yn anghofio pechodau, fel un yn dilëu camweddau, ac yn anghofio pechodau o'i ddaioni anleidrol ei Hun; ac fel yr unig un sydd yn dilëu camweddau, 1—XIII. ac yn anghofìo pechodau. "Myfi, Myfi yw'r Hwn a ddilea dy gamweddau, er fy mwyn fy Hun, ac ni chofiaf dy bechodau." Trwy gyfrwng y geiriau hyn yr ydym yn cael golwg ar Dduw, yn— I. Fel un yn dilëu camweddau. "Yr Hwn a ddilea dy gamweddau." Ym- ddengys fod y gyffelybiaeth yn gyfryw ag sydd wedi ei chymmeryd oddi wrth yr arferiad o gadw cyfrifon. Y mae yn gwbl adnabyddus ei bod yn arferiad cyffredin o eiddo y werin i groesi allan y cyhuddiad (y charge) oddi ar lyfr y cyfrif, pan y mae y naill gymmydog yn talu ei ddyled i gymmydog arall; ao y mae yn ymddangos fod yma gyfeiriad uniongyrchol at yr arferiad priodol hwnw. Y mae'r gair Groeg ezaleipho, yr hwn a gyfieithir yma yn gystal â manau ereill, dilëu, yn golygu diddymu, treulio ymaith, dadlythyru ys- grifen, fel na byddo mwyach yn ddarllen- adwy. Mae y Duw trugarog a graslawn, mewn cyssylltiad a chydymffurfiad â'i drefn ogoneddus, yn barod i wneyd hyn, yn ewyllysio gwneyd hyn, ac hyd yn oed yn addaw gwneyd hyn â dyledion pech- adur, eu croesi allan oddi ar ei lyjfr, eu diddymu, eu dilëu dros byth. Y ma'e dyn wedi rhedeg ym mhell iawn yn nyled ei Dduw, wedi bod am flynyddau lawer yn pentyru camwedd at gamwedd, fel y mae, weithian, swm aruthrol o droseddau yn ei erbyn ar dudalenau cyfrol goffadwr- iaethol Duw; ond nid gormod i'r dilëwr i'w dilëu. Os ydyw wedi myned yn feth- dalwr, a threulio y cwbl mewn afradion- edd, y mae modd cael ymwared eto, nid trwy daliad personol o'i eiddo ei hun, ond