Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR H A U L €xfxm teftjrìẁin. aYNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEUNI." "A GAIR DÜW YN ÜCHAP." Rhif. 149. MAI, 1869. Cyp. 13. ENWOGION YR EGLWYS. TR ESGOB BEDELL. Gan fod Eglwys yr Iwerddon yn wrth- ddrych i ymosod arni yn awr gan ein Seneddwyr, ef allai y bydd bywgraffiad un o breladiaid yr Eglwys uchod yn dder- byniol ar yr adeg bresennol. Cafodd William Bedell ei eni yn Black Noteley, Essecs, yn y flwyddyn 1570. Yr oedd yn disgyn o deulu hynafol a pharchus. Der- byniodd addysg glasurol wech pan yn ieuanc; ac ym mhen amser, anfonwyd ef i Goleg Immanuel, Caergrawnt, Ue dangos- odd arwyddion gobeithiol yn fuan. Yr oedd yn hynod am ei dduwioldeb a'i ddysgeidiaeth. Meddiannai synwyr cy- ffredin cryf: arferai ei gydfyfyrwyr dalu gwarogaeth iddo; ac os buasai i ryw fater o bwys gael ei benderfynu, Bedell oedd yn cael ei benodi yn ganolwr; efe oedd i ben- derfynu pob dadl mewn llenyddiaeth a materion crefyddol. Pan oedd yn dair ar hugain oed, cafodd ei ethol yn gymmrawd o'i goleg. Yn fuan wedi hyn, cafodd ei urddo, a symmudodd i Bury Sant Edmund, lle y bu yn gweinidogaethu gyda sel, ac er boddlonrwydd mawr i*w blwyfolion. Ni fu ei arosiad yno ond byr. Yn y flwyddyn 1604 penderfynodd Iago y Cyntaf anfon tri cenadwr i wahanol lysoedd yn Ewrop. Penododd Joseph Hall, wedi hyny esgob Norwich, yn gaplan i'r negesydd yn Ffrainc; a Charles Wadsworth, yr hwn a drodd yn Babydd, i'r Yspaen; a William Bedell yn gaplan i Syr Harri Worton yn Venice. Yr oedd y tri yn hollol wahanol În eu cymmeriadau, a chawsant eu addysgu yn yr un coleg, a'u hurddo gan yr un esgob; ac ar yr un pryd yr oeddynt yn gyfeillion mynwesol, a chafodd y tri eu.dewis i lanw yr un sefyllfaoedd yng ngwahanol ranau o'r byd. Pan gyrhaeddodd Bedell Yenice, yr 17—XIII. oedd y ddinas hòno mewn sefyllfa ber- yglus. Yn y lle cyntaf, yr oedd y Pab Paul V., dyn o dymmerau gwyllt ac ym- ddialgar, wedi cyhoeddi ei felltithion ar y Llywodraeth, o herwydd iddì garcharu dau offeiriad pabaidd, dynion o'r cymmer- iadau gwaethaf. Yr oedd y Pab yn ystyried fod y weithred hon o eiddo y weriniaeth yn cynnyg at gwtogi ei awdur- dod a'i allu. Ýr oedd y weriniaeth mor annibynol a'i Sancteiddrwydd; bu yn ceisio eu darostwng am flwyddyn, ond methodd. Pan welodd nad oedd modd i'w plygu, gorchymmynodd ar fod i'r holi Eglwysi gael eu cau i fyny, ac nid oedd neb i dderbyn y sacramentau, &c. Yn lle lliniaru teimladau y werin, darfu y weith- red hon eu gyru yn wynias. Cyhoeddwyd gwrthdystiad cyhoeddus gyda llais udgorn yn heolydd Venice. Yr oedd y ddinas y pryd hwnw yn eistedd fel brenines, ac yr oedd Ewrop yn talu gwarogaeth iddi; o herwydd hyn, nid oedd yn gofaln dim am fygythiadau y Pab. Ym mhlith ei chynghorwyr yr oedd un dyn doeth iawn o'r enw Paul Sarpi, yr hwn oedd yn enwog fel hanesydd, phil- osophydd, a duwinydd. Yr oedd yn ysgolhaig addfed, ac o gymmeriad uchel. Daeth Bedell a Sarpi yn gyfeillion. Saf- odd Sarpi i fyny yn ddiofn o blaid y Llywodraeth, dros ei hiawnderau yn erbyn hawliau y Pab, er fod ganddo wrthwy- nebwyr galluog ym mhersonau y Cardinal Baronius, a Bellarmine y Jesuit dysgedig. Yn y cyfwng hwn, darfu i Sarpi ymddwyn yn ddoeth ac heb fyned i eithafion. Caf- odd Paul ei wysio o'r diwedd i fyned i Bufain i ateb dros ei olygiadau heretic- aidd; ond gwrthododd fyned, ac arosodd yn Ýenice. Yn y flwyddyn 1607 anfon-