Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y R H A U L. €xfim (torfijrìẁiii. YNG NGWYNEB HAÜL A LLYGAD GOLEÜNI. "A GAIR DUW YN UCHAP." Rhif. 150. MEHEFIN, 1869. Cyf. 13. HYFRYDWCH Y SAINT YN NHY DDUW. GAN Y BRAWD CWARTUS. "Ant o nerth i nerth; ymddengys pob un ger bron Duw yn Sîon."—Salm lxxxiv. 7. Ymddengys ddarfod i'r salm hon gael ei chyfansoddi pan oedd ei hawdwr, o blegid rhyw achos neu gilydd, wedi cael ei am- ddifadu am ryw ennyd o'r mwynhâd o fod yng nghynnuíleidfaoedd crefyddol ei frodyr yn Ierwsalem. Mae y salm yn dadgan, mewn iaitn nodedig o effeithiol, syniadau y credadyn ddefosiynol am Wasanaeth cyhoeddus yr Arglwydd yn ei gyssegr. Ac y mae'r syniadau hyn yn y salm, os edrychwn ni arnynt, fel mewn drych, i gymharu ein syniadau ein hunain â hwynt, yn wasanaethgar i ddangos i ni ein gwir gyflwr mewn pethau ysbrydol: canys cariad gwresog at Wasanaeth cyhoeddus y cyssegr yw un o'r profion goreu o dduwioldeb personol yn y galon. Ni a allwn ddychymmygu fod y Salm- ydd ar yr achlysur hwn yn un o'r personau ag oeddynt yn myned yn lluoedd o holl barthau y wlad i fyny i Ierwsalem ar un o'r gwyliau arbenig. A phan y mae efe o bell yn canfod gyntaf binaclau a thyrau y ddinas sanctaidd a'r Deml, mae yn tori allan i lefain mewn Uawenydd, "Mor hawddgar yw dy bebyll Di, O Arglwydd y lluoedd!"—Adn. 1. Mae teimlad cyffelyb yn cael ei ddad- gan, bron yn yr un geiriau, gan ddyn gwahanol iawn, ac mewn ysbryd gwahanol iawn, yn Llyfr Numeri. Yr oedd Balac, brenin Moab, wedi anfon i gyrchu Balaam y dewin i felltithio plant Israel, y rhai oeddynt y pryd hwnw yn gwersyllu yn agos i derfyn ei deyrnas ef: cymmerodd Balac ef i uchelfa, fel y gallai oddi yno weled yr holl wersyllfa. "A chododd Balaam ei lygaid, ac a welodd Israel ýn pebyllio yn ol eu llwythau»" Ac ar- 21—xm. dderchog a mawreddog dros ben oedd yr olygfa. Efe a welai ar y gwastadedd is law iddo luaws aneirif o bebyll yn tywynu yn yr haul, pebyll y gwahanol lwythau ychydig ar wahân oddi wrth eu gilydd: ac yn un rhan o'r wersyllfa yr oëdd pebyll y Lefiaid yn amgylchynu arch y cyfam- mod, uwch ben yr hon yr oedd y golofn gwmwl. Yr oedd yr holl bebyÛ mewn perffaith drefn—yn wahanol renciau; ac yr oedd yr olwg arnynt fel pe gwelid gwelyau o lysiau blodeuog yn gyfochrog â'u gilydd mewn gardd, neu fel coed lawer wedi eu planu yn rheolaidd mewn planigfa goed- wigol. Wrth yr olwg ogoneddus, nis gallodd Balaam lai na thori allan yn y geiriau hyn:—"Mor hyfryd yw dy bebyll di, O Iacob! dy gyfanneddau di, O Israel! ymestynant fel dyffrynoedd, ac fel gerddi wrth afbn, fel olewwydd a blanodd yr Arglwydd, fel y cedrwydd wrth ddyfr- oedd!"—Numeri xxiv. 2, 5, 6. Yr oedd y geiriau hyn yn ddadganiad o syndod y dewin wrth brydferthwch yr olyfa. Ond mae geiriau y Salmydd yn ddadganiad serch- ogrwydd ei galon wrth weled dinas a theml yr Ior, ef allai ar ol hir absennol- deb; canys mae yn myned rhagddo i ddywedyd, "Fy enaid a hiraetha, îe, ac a fiysia am gynteddau yr Arglwydd; fy nghalon a'm cnawd a waeddant am y Duw by w."—Adn. 2. Yn yr adnod nesaf, mae y Salmydd yn dadgan ei serch at dy yr Arglwydd mewn ymadrodd ae sydd yn cynnwys cyfeiriad effeithiol nodedig. Yr ydoedd megys yn cenfigenu hyd yn oed wrth yr adar bach ag oeddynt yn nythu yn y lleoedd cyssegr- edig hyny, fel pe buasent hwy megys yn